12.7 C
Llanelli
Saturday, October 24, 2026
Home Local News Ceredigion News Gwaith adeiladu i ddechrau ar drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn...

Gwaith adeiladu i ddechrau ar drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn Ganolfan Llesiant fis nesaf

0
494
Canolfan Hamdden Llambed Lampeter Leisure Centre
Canolfan Hamdden Llambed Lampeter Leisure Centre

Fel rhan o Strategaeth Gydol Oes a Llesiant ehangach Cyngor Sir Ceredigion, bydd Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn trawsnewid yn Ganolfan Llesiant.

Bydd y Ganolfan Lles yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n ystyried ac yn gwella agweddau corfforol, meddyliol a chymdeithasol lles unigolyn.  Bydd y gwasanaethau Gydol Oes hyn yn cynnwys sgiliau a chyngor ynghylch swyddi, cymorth yn wyneb caledi ac mewn materion sy’n ymwneud â thai, gwasanaethau i bobl ifanc, cymorth i ofalwyr, cymorth cynnar o ran iechyd meddwl ayb.

Bydd y Ganolfan Lles hefyd yn ei gwneud hi’n haws i breswylwyr gael mwy o wybodaeth am holl wasanaethau’r cyngor a chael cyngor a chymorth gan y gwasanaethau hyn. Bydd darparu cyfleoedd i bobl wneud ymarfer corff yn parhau yn rhan greiddiol o’r Ganolfan Lles. Mae’r cynllun ailddatblygu yn cynnwys creu cyfres o ystafelloedd ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod, a bwriedir cynnwys stiwdio droelli ac ystafell amlbwrpas ar y llawr cyntaf gyda lle i gynnal dosbarthiadau ymarfer. Bydd yr adeilad yn dal i gynnwys prif neuadd chwaraeon.

Er mwyn cynorthwyo’r trawsnewid, bydd yn rhaid i Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan gau er mwyn sicrhau y gall y gwaith adeiladu hanfodol ddechrau. Disgwylir i’r gwaith ddechrau yng nghanol mis Gorffennaf 2022.

Mae cytundeb wedi’i roi ar waith gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddefnyddio eu cyfleusterau hamdden ar Gampws Llanbedr Pont Steffan tra bo’r gwaith yn cael ei wneud, sy’n golygu y bydd darpariath ar gyfer holl ddefnyddwyr presennol y Ganolfan Hamdden.

Mae’r Cyngor a’r Brifysgol wedi ymrwymo i barhau i gydweithio hyd yn oed ar ôl adeiladu’r Ganolfan Llesiant, er mwyn sicrhau bod darpariaeth o fewn Llanbedr Pont Steffan i’r holl chwaraeon a gweithgareddau sy’n cael eu chwarae yn y Ganolfan Hamdden ar hyn o bryd barhau a datblygu.

Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Bydd y buddsoddiad cyfalaf sylweddol hwn yng Nghanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn sicrhau dyfodol y Ganolfan, ond bydd hefyd yn diwallu anghenion cynyddol plant, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd Llanbedr Pont Steffan a’r ardal gyfagos.”

Bydd modd dechrau defnyddio’r cyfleusterau ar Gampws Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 a bydd modd defnyddio’r cyfleusterau hyn hyd nes y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ym misoedd cyntaf 2023.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.