17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Newyddion Lle Prifysgol Abertawe’n cael ei henwi’n un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Prifysgol Abertawe’n cael ei henwi’n un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

0
453
Green Flag 22 1
Green Flag 22 1

Barnwyd unwaith eto fod tiroedd nodedig ac amrywiol dau gampws Prifysgol Abertawe ymysg y mannau gwyrdd gorau yng Nghymru.

Mae’r Brifysgol yn dathlu ar ôl ennill Gwobr y Faner Werdd, sef marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o’r radd flaenaf sy’n cydnabod cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae hefyd wedi cadw ei hachrediad fel Safle Treftadaeth Gwyrdd, ar ôl ei dderbyn am y tro cyntaf y llynedd. Mae’r wobr arbennig hon, a gefnogir gan Cadw, yn cydnabod safleoedd sydd o bwys hanesyddol ac sy’n bodloni meini prawf y Faner Werdd. 

Talodd Paul Edwards, y rheolwr tiroedd, deyrnged i ymdrechion ei dimau ar ddau gampws y Brifysgol: “Rydym yn hynod falch o gadw Gwobr y Faner Werdd a statws y dyfarniad treftadaeth. Mae ein safleoedd yn cynnig heriau a buddion gwahanol iawn ac o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad y tîm y mae’r ddau ohonynt o’r safonau uchaf, er mwynhad ein myfyrwyr, ein staff a’n hymwelwyr.

“Mae gwybodaeth fanwl y tîm tiroedd yn sicrhau y bydd natur hanesyddol safle Singleton a lleoliad Campws y Bae ger y traeth yn parhau i gael eu cadw a’u gwella er cenedlaethau’r dyfodol

Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe:

“Rydyn ni’n hynod falch ein bod ni wedi cadw statws y Faner Werdd am bum mlynedd yn olynol. Mae hyn yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein tîm tiroedd rhagorol wrth ddatblygu a rheoli ein mannau gwyrdd mewn modd cynaliadwy, gan werthfawrogi natur hanesyddol a gwyddonol y mannau hyn.

“Mae ein tiroedd a’n gerddi’n bwysig i les ein staff, ein myfyrwyr a’n cymunedau lleol ac maen nhw o werth mawr i’r Brifysgol.”

Green Flag

Eleni, mae’r Brifysgol ymysg 265 o fannau gwyrdd – sy’n amrywio o erddi a pharciau ffurfiol i randiroedd a mynwentydd eglwysi – ledled y wlad sydd wedi derbyn gwobr uchel ei bri’r Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gyfrifol am raglen Gwobr y

Faner Werdd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Ymwelodd beirniaid arbenigol â phob safle a gwnaethant ystyried meini prawf a oedd yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:

“Mae ein mannau gwyrdd lleol yn gwneud cyfraniad allweddol wrth ein cysylltu â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg yng Nghymru’n gwneud gwaith gwych wrth ddarparu mannau o safon uchel i ymlacio ynddyn nhw a’u mwynhau.

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus:

“Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn i longyfarch staff a gwirfoddolwyr am wneud y gwaith caled sydd wedi cynnal safonau ardderchog yn y safleoedd hyn.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.