17.5 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Cyfleoedd ar Fframwaith Adeiladu Peirianneg Sifil £430 miliwn De-orllewin Cymru

Cyfleoedd ar Fframwaith Adeiladu Peirianneg Sifil £430 miliwn De-orllewin Cymru

0
375
Contract min
Contract min

Mae partïon sydd â diddordeb yn cael eu gwahodd i dendro am Fframwaith Contractwyr Peirianneg Sifil Rhanbarthol newydd ar gyfer De-orllewin Cymru. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe (‘y Cynghorau’) yn dymuno penodi Contractwyr addas eu cymhwyster i gyflawni prosiectau adeiladu cysylltiedig â pheirianneg sifil ar draws y rhanbarth.

Cyfanswm gwerth y Fframwaith rhanbarthol yw oddeutu £430 miliwn a bydd ar waith rhwng 2023 a 2026 gydag opsiwn i’w ymestyn am hyd at 12 mis ychwanegol.

Bydd y Fframwaith yn cynnwys lotiau fesul gwerth a rhai daearyddol/rhanbarthol ar gyfer Gwaith Peirianneg Sifil, gan amrywio o waith bach iawn i waith mawr, yn ogystal â lotiau ar gyfer gwaith sifil arbenigol megis dymchwel, goleuadau cyhoeddus, leinio a marcio ffyrdd, arwynebu, ymchwiliadau tir, gwaith morol a rheoli traffig.

Mae’r Cynghorau yn Rhanbarth De-orllewin Cymru wedi ymrwymo i gyfrannu at lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eu cymunedau. Yn ogystal â chynnig cyfle i gontractwyr lleol wneud cais am waith, elfen allweddol o’r Fframwaith fydd cynnwys Buddion Cymunedol ar gyfer prosiectau â gwerth o £1 filiwn neu fwy. Ynghyd â darparu’r prif brosiect neu gynllun, bydd y Cynghorau’n ceisio hyrwyddo cyfleoedd ychwanegol, cynaliadwy ehangach.

Lotiau Bach iawn newydd ar gyfer Lotiau Gwaith Sifil

Un ychwanegiad pwysig at y Fframwaith newydd yw cynnwys lotiau sy’n benodol i siroedd ar gyfer gwasanaethau peirianneg sifil bach iawn, hyd at £50,000 mewn gwerth. Mae’r Cynghorau eisiau annog busnesau bach a chanolig i wneud cais am le ar y lotiau hyn fel bod ganddynt adnoddau ychwanegol ar gyfer gwaith fel gwaith sifil cyffredinol, gwrthgloddiau, ffensio, draenio, gosod brics, gwaith maen cerrig, gwaith weldio a metel, palmentydd, paentio pontydd, atgyweiriadau concrit, estyll, gwaith ar ddur a gwaith ymateb brys.

Mae cymorth wrth law i fusnesau bach a chanolig wneud cais am le ar y Fframwaith. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth – Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru

Bydd Busnes Cymru hefyd yn trefnu ‘Gweminar Tendro Byw’ am ddim, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n tendro ar gyfer y Fframwaith hwn, i’w gynnal ar 18 Hydref 2022. Bydd Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau ar gyrchu’r e-dendr a chyflwyno cais. Mae cofrestru yn hanfodol er mwyn cadw lle ar y gweminar, felly, i gofrestru, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01267 233749 neu drwy e-bostio: westwales@businesswales.org.uk

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu’r tendr a’r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.