15 C
Llanelli
Sunday, June 28, 2026
Home Local News Carmarthenshire News MAE DATHLIAD O HANES RYGBI CYMRU YN CYRRAEDD LLANELLI

MAE DATHLIAD O HANES RYGBI CYMRU YN CYRRAEDD LLANELLI

0
1028
New image for website min
New image for website min

Cyn bo hir bydd Theatr y Ffwrnes, Llanelli yn croesawu rhai o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed fel rhan o noson goffa arbennig iawn ar 23 Hydref am 7:30pm, sef An Evening to Remember 9-3.

Hanner can mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol Clwb Rygbi Llanelli yn erbyn y Crysau Duon cryf ym Mharc y Strade yn 1972, bydd Theatr y Ffwrnes yn cynnal noson i ddathlu’r diwrnod pan mai Llanelli oedd y lle pwysicaf yn y byd.

Llanelli-Team-v-All-Blacks

Ble oeddech chi ar Hydref 31, 1972? Oeddech chi’n un o’r 20,000 ar Barc y Strade yn Llanelli yn gwylio gêm bwysig iawn o rygbi neu efallai’n eistedd gartref yn gwylio ar y teledu.

Gêm o rygbi hanesyddol.

Ar y diwrnod hwn fel rhan o’u taith (1972–73) o amgylch Hemisffer y Gogledd, bu tîm rygbi Seland Newydd yn herio Clwb Rygbi Llanelli ar Barc y Strade, Llanelli,

Stradey Park 9-3 game

Un o ganlyniadau enwocaf hanes rygbi’r undeb, Llanelli enillodd y gêm 9–3. Sgoriodd canolwr Llanelli, Roy Bergiers, unig gais y gêm, wrth i fewnwr y Crysau Duon, Lin Colling, golli’r bel ar ôl i gic gosb gan yr anfarwol Phil Bennett daro’r postyn. Sgoriodd cefnwr Seland Newydd Joe Karam gic gosb i roi eu hunig bwyntiau o’r gêm iddyn nhw, cyn i asgellwr Llanelli Andy Hill daro cic gosb i sicrhau buddugoliaeth i’r Scarlets.

Mae pedwar o dîm Clwb Rygbi Llanelli a gurodd y Crysau Duon yn ôl yn Llanelli ar Hydref 23ain – nid ar y cae rygbi y tro hwn ond ar lwyfan Theatr y Ffwrnes. Delme Thomas, Derek Quinnell, Gareth Jenkins a Roy Bergiers. Byddant yn hel atgofion am y diwrnod gogoneddus hwnnw yn fyw ar y llwyfan. Yn gofyn yr holl gwestiynau bydd cyn-gyflwynydd rygbi BBC Cymru, Huw Llywelyn Davies. Bydd hefyd yn arwain y sesiwn holi-ac-ateb yn yr ail hanner lle bydd y gynulleidfa yn gallu gofyn eu cwestiynau eu hunain i bedwar arwr Llanelli.

Llanelli’s Delme Thomas celebrates

Mae hon yn noson nid yn unig i wir gefnogwyr Llanelli ond i gefnogwyr rygbi Cymru yn gyffredinol.

Pris tocynnau yw £26.00 ac maent ar gael o Swyddfa Docynnau Theatrau Sir Gâr drwy ffonio 0345 226 3510, neu ar-lein drwy fynd i www.theatrausirgar.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here