Rhaid Mynd i’r Afael â Honiadau Difrifol

0
554

Dylai Plaid Cymru Alw ar Heddlu De Cymru i Ymchwilio

Mae Arweinydd Propel Neil McEvoy yn galw ar Blaid Cymru i ymateb ar fyrder i honiadau o ymosodiadau rhywiol lluosog ac i ofyn i Heddlu De Cymru i ymchwilio i’r honiadau hynny.

Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy,

“Credaf fy mod yn gymwys i wneud sylw ar y carthbwll o fewn Plaid Cymru.

“Deuthum yn ymwybodol o ddiwylliant Plaid Cymru pan gyrhaeddais frig y Blaid. Gwelais i ac eraill nifer o ymosodiadau rhywiol lefel isel a anwybyddwyd ganddynt.

“Cefnogais hefyd fenyw ifanc a oedd yn cael ei haflonyddu gan aelod gwrywaidd hŷn yn ystod arweinyddiaeth Leanne Wood. Ychydig iawn a wnaethpwyd i ddelio â’r mater a’r aelod gwrywaidd a dderbyniodd gefnogaeth unigolion blaenllaw o fewn y Blaid, yn hytrach na’r ferch ifanc.

“Ar ôl i gamau disgyblu gael eu cymryd yn fy erbyn am ddweud y dylai’r pedoffeil a chyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas fod wedi mynd i’r carchar, penderfynais dynnu fy nghais i ail-ymuno â’r Blaid yn ôl yn 2019. Roedd yn sefyllfa wrthun lle’r honnwyd fy mod wedi dwyn anfri ar y Blaid am ddweud y gwir. Roedd yn well gan Blaid Cymru adael i’r unigolyn gwyrdroëdig hwnnw ymddiswyddo’n dawel heb unrhyw ganlyniadau i’w weithredoedd. Wedi hynny, roeddwn yn glir fy meddwl nad oeddwn am gael unrhyw beth i’w wneud â Phlaid Cymru a’u rhagrith syfrdanol.

“Yn ogystal, dygwyd fy sylw at honiad o ymosodiad rhywiol difrifol iawn, yr honnir iddo gael ei gyflawni gan aelod blaenllaw o’r Blaid. Dywedodd y dioddefwr eu bod wedi cael cynnig “ymddiheuriad am gamddealltwriaeth,” am ddigwyddiad a oedd wedi eu llorio yn llwyr. Ni chyfeiriwyd y mater at yr heddlu a gwnes innau fy ngorau i gefnogi’r dioddefwr, nad oedd yn teimlo yn y pen draw y gallent droi at yr heddlu. Byddaf yn parhau i barchu cyfrinachedd y person hwnnw ac yn eu cefnogi yn y dyfodol os bydd angen.

“Mae’n bryd i Blaid Cymru graffu’n ofalus iawn ar eu hymddygiad ac i gymryd camau i unioni hynny. Nawr, mae honiad arall o ymosodiad rhywiol wedi’i wneud yn gyhoeddus a’i weld ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n rhaid i Blaid Cymru atal aelodaeth y rhai sy’n gwybod am hyn ac nad ydynt wedi gweithredu. Dylent hefyd alw ar Heddlu De Cymru i ymchwilio i’r honiadau. Rwy’n amau efallai nad yw’r honiad presennol yn ddigwyddiad unigol. Dylai’r rhai sydd wedi dioddef yn y gorffennol ystyried datgelu eu profiadau hwythau. Mae’n bosibl iawn y bydd diogelwch mewn niferoedd.

“O safbwynt gwleidyddol, mae mudiad annibyniaeth Cymru wedi dod yn rhy bell i gael ei niweidio gan ymddygiad Plaid Cymru. Mae angen gweithredu.”