8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Charity Apêl Nadolig elusen y GIG yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd...

Apêl Nadolig elusen y GIG yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau neu sy’n peryglu bywyd

0
350
Wish Fund Staff min
Wish Fund Staff min

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi lansio ei Hapêl Nadolig flynyddolEleni bydd yr elw o Apêl leol y GIG yn mynd i ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau.

Mae’r Gronfa Ddymuniadau, a gefnogir gan dîm rygbi’r Scarlets, yn codi arian ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.

Mae’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig yn gofalu am blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd. Nod y gwasanaeth yw rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i blant a phobl ifanc, er y gallai eu bywydau fod yn fyrrach.

Mae’r Gronfa Wish yn helpu’r Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig i greu atgofion parhaol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi.

Mae tair ffordd y gall y gymuned leol gefnogi Apêl y Nadolig:

Anfonwch Anrheg

Anfonwch Anrheg yn rhoi cyfle i brynu anrheg brynu anrheg o ddetholiad o eitemau sydd wedi’u dewis yn ofalus gan y Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig ar gyfer y plant a’r bobl ifanc a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau.

Mae’r anrhegion a ddewiswyd ar gyfer Anfonwch Anrheg eleni yn cynnwys eitemau fel teganau meddal, deunyddiau celf a chrefft, llyfrau, gemau consol ac eitemau maldod.

Bydd pob eitem a brynir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r plant a’r bobl ifanc a gefnogir gan y Gronfa Wish.

Gellir dod o hyd i restr dymuniadau Amazon trwy ymweld â:

www.amazon.co.uk/hz/wishlist/ls/2UDLL2EE3E47S/ref=nav_wishlist_lists_2


Cardiau Nadolig Dwyieithog:

Mae cardiau Nadolig elusennol dwyieithog yr elusen GIG hefyd ar gael nawr. Daw’r cardiau mewn tri dyluniad mewn pecynnau o 10 gydag amlenni. Mae un dyluniad i bob pecyn a chyfarchiad dwyieithog y tu mewn.

Mae’r dyluniadau’n cynnwys:

• Y Seren ar y Brig

• Robin Gardd

• Band Pres wrth y Goeden.

Gellir prynu’r pecynnau am £3 y pecyn gan gynnwys tâl post:  https://hyweldda.enthuse.com/cf/hywel-dda-christmas-cards


Diwrnod Siwmper Nadolig:

Eleni, cynhelir Diwrnod Siwmper Nadolig Hywel Dda ar ddydd Gwener 9 Rhagfyr. Rydym yn gwahodd cefnogwyr i wisgo eu hoff siwmper Nadolig, het neu rywbeth Nadoligaidd a rhowch £3 i elusen GIG leol.

Gall cefnogwyr wneud cyfraniad o £3 trwy decstio WISHFUND i 70085 neu gallant gyfrannu ar-lein yn: https://hyweldda.enthuse.com/cf/the-wish-fund

Bydd yr arian a godir o’r gweithgareddau hyn yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu’r Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y mae cyllid y GIG yn ei ganiatáu.

Dywedodd Rebecca McDonald, Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol Pediatrig: “Fel tîm, rydym yn wirioneddol ddiolchgar i fod yn rhan o’r Apêl Nadolig eleni.

“Bydd y rhoddion a dderbynnir yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r holl blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yr ydym yn darparu gofal iddynt ar draws ein bwrdd iechyd.

“Ein hethos yw sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r plant a’r bobl ifanc hyn, gan wella ansawdd eu bywyd, a’u galluogi i fyw eu bywyd gorau. Bydd yr anrhegion hyn yn dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd i’r plant a’r teuluoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw sy’n aml yn gallu wynebu ansicrwydd a heriau.”

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Mae gofal lliniarol plant yn ymwneud â hyrwyddo’r ansawdd bywyd gorau i bob plentyn neu berson ifanc sydd â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd neu gyflwr sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd.

“Trwy gefnogi’r Apêl hon, gallwch chi roi amser i’r plant a’r bobl ifanc hynod ddewr a’u teuluoedd i garu gyda’i gilydd, gan greu atgofion hwyliog, cadarnhaol.

“Fel tîm rydym bob amser mor ddiolchgar am yr holl roddion a dderbyniwyd trwy gefnogaeth a haelioni’r cyhoedd.”

Am fwy o wybodaeth ar y Apêl Nadolig, ewch I: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/elusennau-iechyd-hywel-dda/apel-nadolig/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.