15.8 C
Llanelli
Friday, September 11, 2026
Home Local News Milford Haven News Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru’n lansio hwb bwyd Aberdaugleddau

Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru’n lansio hwb bwyd Aberdaugleddau

0
2853
PATCH Food Hub Press Picture 2 22 × 14 cm
PATCH Food Hub Press Picture 2 22 × 14 cm

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, yn falch o lansio ei phedwaredd hwb bwyd yng ngorllewin Cymru fis Tachwedd. Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn prynu bwyd ffres, sydd â gwerth gwych am arian.

Bydd yr hwb bwyd yn Aberdaugleddau yn lansio ddydd Mercher 30 Tachwedd am 12:00 yn Siop Elusen PATCH ar Charles Street, ac mae gwahoddiad agored i bawb ddod draw ar y diwrnod i gwrdd â’r tîm. Byddent wrth eu bodd yn clywed eich syniadau am yr hyn yr hoffech ei weld ar gael yn yr hwb yn y dyfodol.

Bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Aberdaugleddau yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, ac i ddechrau, bydd yn cynnig llysiau, ffrwythau a salad ffres i’w harchebu.

Dywedodd Dave Goulding, Cynrychiolydd PATCH, “rydym yn edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o’r fenter hon, gan ei bod yn galluogi trigolion lleol i fanteisio ar ffrwythau a llysiau sy’n cynnig gwerth arbennig am arian”. Ychwanegodd, “drwy gydweithio â PLANED, rwy’n gobeithio ein bod yn gallu bod yn rhan o fwy o brosiectau fel hyn yn y dyfodol”.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.