8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Ymwelwch â’ch fferyllfa yn gyntaf y tymor hwn

Ymwelwch â’ch fferyllfa yn gyntaf y tymor hwn

0
291
hywel dda graphic min
hywel dda graphic min

Mae pobl yn cael eu hannog i ymweld â’u fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau y gaeaf hwn, yn hytrach na chysylltu â’u meddyg teulu neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys.

O boen cefn i ddiffyg traul, i boen dannedd, gall fferyllwyr ddarparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer ystod o gyflyrau cyffredin i’r teulu cyfan.

Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 27 o gyflyrau lle gall fferyllydd asesu a darparu meddyginiaeth am ddim, os yw’n addas, heb fod angen presgripsiwn. Mae’r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion ofyn am gyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy’n cymryd rhan, yn hytrach na’u meddyg teulu, ar gyfer rhestr ddiffiniedig o anhwylderau.

Ffoniwch cyn mynd i’ch fferyllfa leol i wirio bod gwasanaethau ar gael ar unrhyw ddiwrnod penodol. Bydd eich fferyllydd, ar ôl ymgynghoriad byr, yn gallu rhoi cyngor a chyflenwi meddyginiaeth o restr y cytunwyd arni gan y GIG neu, os oes angen, atgyfeirio’r claf at ei Feddyg Teulu.

Dywedodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol sy’n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser wedi argymell triniaethau priodol i’r claf, neu os oes angen eu hatgyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

“Mae gwasanaethau eraill ar gael hefyd, fel y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf, gwasanaeth UTI, atal cenhedlu brys a chyflenwad brys o feddyginiaeth.”

“Peidiwch ag anghofio archebu unrhyw feddyginiaeth arall mewn da bryd, o leiaf saith diwrnod cyn i chi redeg allan.”

Yn ogystal â’r arbenigedd proffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, gall cleifion cymwys barhau i gael eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain ac eraill y gaeaf hwn.

I gael manylion cyswllt ac amseroedd agor eich fferyllfa leol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.