22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Mae angen eich barn am waith i wella lles

Mae angen eich barn am waith i wella lles

0
437
logo 3
logo 3

Gofynnir i bobl ar draws Abertawe sut maent yn meddwl y gall sefydliadau weithio gyda’i gilydd orau i wella lles y ddinas yn y pum mlynedd nesaf.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, sy’n cynnwys sefydliadau sy’n darparu llawer o’r gwasanaethau rheng flaen sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn diweddaru ac yn gwella’i Gynllun Lles Lleol bob pum mlynedd.

Mae arolwg ar-lein newydd gael ei lansio sy’n rhoi cyfle i breswylwyr o bob oed ddylanwadu ar ei waith.

Mae’r Bwrdd am glywed oddi wrth gynifer o bobl â phosib a gall unrhyw breswyliwr gymryd rhan drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/dweudeichdweud  rhwng nawr a 13 Chwefror y flwyddyn nesaf.

Mae sesiynau galw heibio hefyd wedi’u trefnu yn Llyfrgell Ganolog Abertawe rhwng 11am a 2pm ddydd Mawrth 13 Rhagfyr ac yn Llyfrgell Clydach rhwng 11am ac 1pm ddydd Gwener 16 Rhagfyr. 

Mae’r bwrdd yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys Cyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac eraill.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, sy’n gadeirydd y bwrdd, 

“Drwy gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd, rydym wedi gwneud camau mawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

“Ond gwyddwn y gallwn wneud mwy drwy wella’r ffordd rydym yn gweithio ymhellach, a dyna pam rwy’n annog pobl i gymryd ychydig funudau i lenwi’r arolwg a’n helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf y gorau y gallant fod.”

Meddai Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas, sy’n ddirprwy gadeirydd y BGC,

“Mae’r holl bartneriaid wedi elwa o weithio’n agos gyda’i gilydd ac maent yn ymrwymedig i wella’n cydweithio er budd pobl Abertawe.

“Mae pob un ohonom yn wirioneddol awyddus i glywed syniadau gan breswylwyr i’n cynorthwyo gyda hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.