Mae teulu Tegwen Jones o Dregaron wedi cyfrannu £4,650 i Apêl Cemo Bronglais er cof amdani ac i ddiolch am y gofal a gafodd.
Roedd Tegwen, 60, yn aelod poblogaidd ac uchel ei pharch o’r gymuned leol, ar ôl gwasanaethu fel clerc i Gyngor Cymuned Llanbadarn Fawr a chyn hynny bu’n gweithio ym Manc Barclays yn Aberystwyth.
Cafodd yr arian ei gasglu yn ei hangladd nôl ym mis Chwefror y llynedd ac fe ddywedodd y teulu fod y penderfyniad i roi i’r Apêl yn “un hawdd” a’u bod yn ddiolchgar iawn am yr holl roddion a dderbyniwyd.
Dywedodd Eleri Evans, wrth siarad ar ran ei thad Wynne Jones a’i chwiorydd Rhian Rowlands a Delyth Jones: “Cafodd Mam driniaeth yn Ysbyty Bronglais sawl gwaith dros y pum mlynedd ar ôl cael diagnosis o lymffoma non Hodgkins.
“Roedd Mam yn gyhoeddus yn ei gwerthfawrogiad o’r gofal a’r driniaeth ragorol a gafodd gan yr holl staff ar y ward, gan y byddent bob amser yn mynd y tu hwnt i hynny i sicrhau ei bod hi fel claf yn cael ei rhoi yn gyntaf a’i bod mor gyfforddus â phosibl. “
Ychwanegodd Eleri: “Yn anffodus, mae ystadegau’n dangos y bydd un o bob dau o bobl yn dioddef o ganser yn ystod eu hoes, felly mae cael darpariaeth cemotherapi yn Aberystwyth yn hollbwysig i’r gymuned. Rydym mor falch y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio tuag at adeiladu uned newydd a fydd yn galluogi staff i barhau i ddarparu’r lefel uchaf o ofal i’r cleifion mewn cyfleuster sy’n adlewyrchu anghenion cleifion yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd wedi bod yn rhedeg yr Apêl:
“Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae’n bleser gennym adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.
“Rydym yn ddiolchgar i deulu Jones am eu cefnogaeth ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Apêl i’n helpu i gyrraedd ein targed.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |




















