15.4 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Farming Cyswllt Ffermio yn gwneud cais i gefnogi gwelliant genetig mewn diadelloedd defaid...

Cyswllt Ffermio yn gwneud cais i gefnogi gwelliant genetig mewn diadelloedd defaid yng Nghymru drwy Raglen Geneteg Defaid Cymru newydd sbon

0
377
Rhidian Glyn.Defaid ac Wyn scaled
Rhidian Glyn.Defaid ac Wyn scaled

Mae Cyswllt Ffermio yn falch o gyhoeddi cynlluniau i gefnogi cofnodi perfformiad mewn diadelloedd defaid Cymreig drwy Raglen Geneteg Defaid Cymru newydd.

Drwy gydweithio’n agos ag arbenigwyr genetig blaenllaw, Innovis ac AHDB Signet bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd diadelloedd defaid Cymru drwy gynyddu nifer y ffermwyr defaid sy’n cymryd rhan yng ngwelliannau genetig eu diadelloedd.

Mae Cyswllt Ffermio nawr yn chwilio am ddiadelloedd newydd i ymuno gyda’r rhaglen, yn benodol bridiau o ddefaid mynydd ac ucheldir, yn ogystal â diadelloedd pedigri o ddefaid Wyneblas Caerlyr, Lleyn, Romney ac Charmoise yr ucheldir.

Dywed Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y rhaglen yn cynnig cyfle gwych i ddiadelloedd sydd â phrofiad o gofnodi perfformiad barhau â’u taith wella genetig, yn ogystal â chyfle i ddiadelloedd newydd ddechrau eu teithiau eu hunain.

“Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau sydd eisoes yn cofnodi perfformiad, neu’n gobeithio dechrau cofnodi, fanteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ym mhob agwedd ar y broses er mwyn cynyddu cynaliadwyedd eu busnes ar gyfer y dyfodol.”

“Gall defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) fel offeryn i wella nodweddion penodol gael effaith enfawr ar gynhyrchiant y ddiadell. Mae defnyddio’r data a gasglwyd i’w lawn botensial yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau cyfiawn ynghylch ble y gallant wella o fewn eu diadelloedd – gan arwain at fwy o enillion ariannol i’w busnesau”.

Bydd diadelloedd sy’n cymryd rhan yn elwa o gefnogaeth amrywiol drwy gydol y rhaglen ddwy flynedd, gan gynnwys  cymorth ariannol i gynorthwyo casglu data, cyngor ac arweiniad ar osod targedau cyraeddadwy ar gyfer gwella diadelloedd, cyfleoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn y pwnc, yn ogystal â chyfle i fod yn rhan o brosiectau ymchwil arloesol.

“Bydd gan bob diadell a ddewisir ddangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau wedi’u diffinio’n glir o’r cychwyn cyntaf fel bod nodau a mecanweithiau clir i fonitro perfformiad y ddiadell, a gwneud addasiadau angenrheidiol drwyddi draw,” meddai Mrs Williams.

Yn ogystal â chasglu data i wella perfformiad cyffredinol y ddiadell, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol, gyda’r nod o ddatblygu nodweddion bridio penodol ar gyfer allyriadau methan is ac ymwrthedd llyngyr mewn defaid.

Elfen hanfodol yn llwyddiant rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio yw ei rôl o rannu arfer gorau a rhaeadru gwybodaeth i’r diwydiant ehangach. Trwy raglen o ddigwyddiadau uchel eu proffil ac offer hyrwyddo, gall Cyswllt Ffermio rannu canfyddiadau a chanlyniadau’r gwaith hwn, gan dynnu sylw at ffrydiau gwaith a thechnolegau arloesol newydd ym maes geneteg defaid.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ac i ymgeisio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor ar ddydd Llun, 8fed o Fai, ac mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn cau am 12yp Dydd Gwener, 9fed o Fehefin.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.