12.2 C
Llanelli
Tuesday, October 27, 2026
Home Newyddion Lle Lansio 22 Taith Gerdded newydd sydd o fewn cyrraedd ein Gorsafoedd

Lansio 22 Taith Gerdded newydd sydd o fewn cyrraedd ein Gorsafoedd

0
552
Ramblers x TfW 22 min min 1
Ramblers x TfW 22 min min 1

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno ag elusen gerdded flaenllaw Cymru, Ramblers Cymru, i lansio 22 o deithiau cerdded newydd o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru. 

Mae’r teithiau cerdded cyfeillgar i deuluoedd neu ddechreuwyr (i gyd ddim hirach na 5km) yn deithiau cerdded cymharol hawdd gyda’r nod o annog pobl leol ac ymwelwyr i fod yn fwy egnïol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd ac archwilio cymunedau lleol a lleoedd llai adnabyddus. 

Mae’r holl deithiau cerdded yn dechrau ac yn gorffen o wahanol orsafoedd rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac mae mapiau ar gael ar gyfer pob taith gerdded ar wefan TrC:

Ramblers & TfW

Mae’r saith lleoliad yn ne Cymru yn cynnwys Merthyr i Pentrebach, Bae Caerdydd, Aberdâr, Y Mynydd Bychan (Caerdydd) ac Ynys y Barri.  Mae llwybrau llinellol ychwanegol ar gyfer ardal y de yn cynnwys Llandeilo i Barc Dinefwr, Trehafod i Bontypridd neu Gaerdydd i Benarth.

Mae’r 15 llwybr yng ngogledd Cymru yn cynnwys Gwersyllt (Wrecsam), Y Fflint, Y Bermo, Caergwrle, Prestatyn, Rhosneigr, Penrhyndeudraeth, Y Drenewydd, Aberystwyth, Penarlâg, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Porthmadog a Chricieth.  Gallai teithiau cerdded llinellol gynnwys Bae Colwyn, Bangor a Rhosneigr.

Ychwanegodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:

“Os hoffech ymweld a chyrchfan newydd, beth allai fod yn haws na neidio ar drên ac ymweld â rhai o’r perlau gwych sydd gan Gymru i’w cynnig.   Mae’r fenter hon yn gyfle gwych i annog pobl i gadw’n heini, teithio’n gynaliadwy a rhoi hwb i gymunedau lleol hefyd.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol TrC:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio’r teithiau byr hyn o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru.  Maent yn cynnig cyfle i bobl deithio ar drên, gyda theulu a ffrindiau, ymweld ag ardal newydd, mynd ar daith gerdded fer yn y gymuned leol a mwynhau amser llesol yn yr awyr agored.”

“Yn TrC rydym am annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy, ac mae’r teithiau cerdded hyn yn wych i deuluoedd neu’r rhai sydd eisiau ymweld â chyrchfan newydd.”

“Rydym eisoes wedi darparu 6 taith dywys o’n gorsafoedd ac rydym yn gobeithio y bydd y rhain yr un mor boblogaidd.”

Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Ramblers Cymru:

“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn i ddatblygu teithiau cerdded.  Mae Ramblers Cymru eisiau gweld cerdded wrth galon cymunedau ac awyr agored sy’n fwy hygyrch i fwy o bobl.

“Gobeithiwn y gall y llwybrau sy’n addas i deuluoedd ddangos rhai o’r trysorau cudd ar draws y rhwydwaith trenau gan annog pobl i archwilio mwy o Gymru, gwario arian a chreu manteision economaidd wrth ddod ar draws pobl a chymunedau ar hyd y daith.”

Mae’r bartneriaeth yn cyd-fynd â thema Croeso Cymru, Blwyddyn y Llwybrau, sy’n ymwneud â dod o hyd i drysorau bythgofiadwy, manteisio ar deithiau i’r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.