8.7 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Brys ac Argyfwng i Blant ac Ieuenctid...

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Brys ac Argyfwng i Blant ac Ieuenctid (Pediatrig) 

0
290
leather product
leather product

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Brys ac Argyfwng i Blant ac Ieuenctid (Pediatrig) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau partner, i rannu eu barn am wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatrig) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Rydym yn ceisio eich barn ar y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hyn yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Mae Maria Battle, Cadeirydd BIPHDd, yn esbonio: “Yn dilyn y newidiadau dros dro i wasanaethau pediatrig a wnaed ers 2016, mae angen i ni nawr roi ateb tymor hwy ar waith a fydd yn ei le hyd nes y bydd yr ysbyty newydd arfaethedig ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn cael ei ddatblygu. Rydym wedi gweithio gyda’n timau clinigol a phediatrig i nodi’r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol ac mae gennym dri opsiwn yr hoffem gael eich barn arnynt. Ar hyn o bryd, nid oes gennym opsiwn a ffafrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu.”

Ychwanegodd yr Athro Phil Kloer – Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr: “Ar gyfer y tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn cael ei gadw yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Hefyd, mae systemau eisoes ar waith i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflyrau critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, a hynny yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd.

“Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried eich holl adborth yng nghyfarfod y Bwrdd tua diwedd 2023 ochr yn ochr â’r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yma.”

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio BIPHDd: “Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio adborth gan bawb yn ein cymunedau – yn enwedig defnyddwyr ein gwasanaethau pediatrig nawr ac yn y dyfodol. Dyma gyfle i chi gymryd rhan a rhannu eich barn am y tri opsiwn rydym yn eu hystyried.

“Bydd eich barn, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu BIPHDd i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Edrychwn ymlaen at gyfarfod ag aelodau o’n cymunedau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Bydd y digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 6pm ar:

  • 20 Mehefin, Clwb Athletic Caerfyrddin, Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Caerfyrddin
  • 23 Mehefin, Canolfan Phoenix, Wdig, Abergwaun 27 Mehefin, Canolfan Hamdden Aberteifi, Ffordd Coleg Addysg Bellach Aberteifi
  • 29 Mehefin, Clwb Cymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau
  • 3 Gorffennaf, Clwb Rygbi Hwlffordd

Yn ogystal â’r digwyddiadau galw heibio, mae tair sesiwn ar-lein wedi’u trefnu ar gyfer:

  • 19 Mehefin, 10am
  • 22 Mehefin, 6.30pm
  • 26 Mehefin, 1pm

Bydd manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y sesiynau ar-lein, copïau o’r dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y bwrdd iechyd o 26 Mai: Gwasanaethau plant yn y dyfodol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.