9.4 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Y Gweinidog Iechyd yn canmol gweithio mewn partneriaeth yn Ysbyty Cymunedol De...

Y Gweinidog Iechyd yn canmol gweithio mewn partneriaeth yn Ysbyty Cymunedol De Sir Benfro

0
424
843e51ec954a36a5 org min
843e51ec954a36a5 org min

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan a’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol Julie Morgan wedi ymweld ag Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro i ddysgu mwy am sut mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu cleifion yn Sir Benfro i gael y gofal gorau.

Daeth yr ymweliad yr wythnos diwethaf (dydd Mercher, 31 Mai) cyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £30m i ddarparu mwy o ofal yn y cartref neu yn y gymuned a lleihau’r amser y mae pobl yn ei dreulio mewn ysbytai.

Mae’r Gweinidog Iechyd a’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wedi nodi sut y byddant yn gweithio gyda llywodraeth leol, y GIG a phartneriaid eraill i gryfhau gwasanaethau gofal lleol er mwyn helpu i liniaru’r math o bwysau ar y system iechyd a gofal a welwyd y gaeaf hwn.

I weld hyn ar waith, ymwelodd Eluned Morgan a Julie Morgan â’r Ganolfan Gydgysylltu yn Ysbyty De Sir Benfro i glywed mwy am y fenter Ar hynt yn gynt, lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Benfro a’r trydydd sector yn cydweithio i ddyrannu’r gofal priodol i bobl ar draws y sir.

Mae’r Ganolfan Gydgysylltu, sy’n gweithredu saith diwrnod yr wythnos, 8am i 6pm ac wedi’i staffio gan dîm o glinigwyr a chydlynwyr profiadol, yn darparu un lle ar gyfer cydgysylltu a brysbennu atgyfeiriadau ac ymholiadau ynghylch anghenion gofal arferol a gofal brys a chanolradd wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Sir Benfro.

Dywedodd Eluned Morgan fod y fenter Ar hynt yn gynt, wedi gwneud argraff arni. Dywedodd: “Rwy’n meddwl bod hon yn enghraifft o’r union beth rydym yn ceisio ei gyflawni ledled Cymru felly rydym am weld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr y gallwn ryddhau pobl o’r ysbyty yn gynt o lawer.

“Ond rydym yn cydnabod fod llawer o waith y mae angen i ni ei wneud mewn perthynas ag atal. Ac mae pawb sy’n cydweithio yma yn gwbl allweddol ac rwy’n meddwl, mewn perthynas â gofal, bod hynny’n hollbwysig hefyd.”

Cytunodd Julie Morgan a chanmolodd y gwaith yn y Ganolfan Gydgysylltu.

Meddai: “Rwy’n meddwl ein bod ni wedi gweld enghraifft dda iawn o ble mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd yn yr un ystafell yn y Ganolfan Cydgysylltu. Roedd hi mor drawiadol gweld pawb yno gyda’i gilydd a gall y rhai sy’n delio â galwadau gyfeirio pobl ymlaen at arbenigwyr sy’n eistedd yn yr un ystafell â nhw. Y mater allweddol mewn gwirionedd yw ceisio atal derbyniadau i’r ysbyty a gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn y gymuned ac rwy’n meddwl bod hon yn enghraifft wych.”

Cyfarfu’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog hefyd â staff a chleifion yn Nhŷ Martello – cyfleuster i gleifion sy’n derbyn gofal ar ôl dod allan o’r ysbyty a gofal ail-alluogi i’w hatal rhag dychwelyd i’r ysbyty ac i allu byw’n annibynnol gartref.

Cafodd y claf Paul McGrath o Ddoc Penfro gyfle i siarad â’r Gweinidogion am ei brofiad yn Nhŷ Martello.

Cafodd Mr McGrath lawdriniaeth ar y galon yn gynharach eleni ac ar ôl misoedd o driniaeth a gwellhad yn yr ysbyty, cafodd Mr McGrath ei drosglwyddo i Dŷ Martello. Mae wedi bod yno ers pythefnos ac yn gobeithio mynd yn ôl adref ymhen rhyw wythnos.

Dywedodd: “Oherwydd y ffordd y mae Tŷ Martello. yn gweithio, mae wedi gwneud i mi deimlo’n llawer mwy cyfforddus yn gwneud pethau. Rydw i wedi gallu codi a symud o gwmpas sydd wedi bod o gymorth aruthrol. Yn sicr, mae bod yma a beth rydw i wedi bod yn ei wneud, symud o gwmpas a cherdded, gwneud pethau i mi fy hun wedi helpu fy symudedd a fy hyder.

“Maen nhw’n annog cerdded a chynnal y drefn ffisiotherapi a roddwyd i mi. Gwneud paneidiau o de, paned o goffi, gwneud brecwast i chi’ch hun, y math yna o beth. Gwneud pethau o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Mr McGrath fod bod yn nhŷ Martello wedi cyflymu ei broses adfer.

“Pan ddes i yma gyntaf, doeddwn i ddim yn gallu gweld fy hun yn mynd gartref – roeddwn i’n poeni am hynny. Ond fe wnaeth bod yma wneud i mi sylweddoli fy mod i fod i fod gartref. Gallaf fod gartref, gallaf barhau â beth bynnag rwy’n ei wneud yma. Popeth rydw i’n ei wneud yma, gallaf ei wneud gartref.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn flaenoriaeth i ni a’n sefydliadau partner. Trwy gydweithio i gydlynu a darparu ein gwasanaethau gallwn gefnogi unigolion i aros gartref neu yn eu cymuned gyda’r lefel gywir o ofal a chefnogaeth fel eu bod yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.”

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: “Mae gennym hanes o weithio mewn partneriaeth ardderchog yn Sir Benfro, gydag iechyd, y trydydd sector a gofal cymdeithasol yr awdurdod yn darparu prosiectau a gwasanaethau sy’n cefnogi ein cymunedau. Mae’n bwysig canolbwyntio ar yr hyn a fydd o fudd i gleifion – a gwella canlyniadau i’r bobl sy’n byw yn Sir Benfro sydd angen y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hyn. Bydd y dull hwn yn gwella’r cydgysylltu a’r effeithlonrwydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n addas i’r diben ac yn gwella bywydau’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.”

Yn ôl Eluned Morgan, bydd y buddsoddiad newydd o £30m yn helpu cyflawni miloedd o oriau ychwanegol o wasanaethau gofal ail-alluogi ledled Cymru, gan ddarparu dewis arall diogel yn lle mynd i’r ysbyty a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu aros gartref, neu roi cyfle i bobl adfer yn gyflymach gartref ar ôl bod yn yr Ysbyty.

Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at:

  • Recriwtio mwy o weithwyr cymunedol i gynghori pobl ar sut y maent yn gallu manteisio ar y cymorth a’r gwasanaethau cywir er mwyn eu helpu i adfer a byw bywydau annibynnol;
  • Sicrhau bod Gwasanaeth Ymatebwyr Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) ar waith gan bob awdurdod lleol erbyn gaeaf 2024. Dim ond 10 awdurdod lleol sydd â’r cyfleuster hwn ar hyn o bryd. Drwy ddefnyddio’r dechnoleg fonitro ddiweddaraf, bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt mor gyflym â phosibl;
  • Symud tuag at wasanaeth Nyrsio Cymunedol 24/7 drwy sicrhau bod nyrsys cymunedol ar gael am 10 awr yn ychwanegol y diwrnod ar y Sadwrn a’r Sul ledled Cymru;
  • Cryfhau gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned drwy sicrhau bod nyrsys arbenigol ar gael dros nos;
  • Cymorth ymarferol i helpu gwasanaethau lleol i gydweithio er mwyn rhoi cynllun gofal unigol ar waith i’r bobl hynny y nodwyd eu bod fwyaf tebygol o fod angen gofal brys. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n gorfod mynd i mewn i’r ysbyty.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.