Hywel Dda yn cyhoeddi’r camau nesaf ar gyfer yr Ymgynghoriad ar Safleoedd Ysbyty Newydd

0
251
Hywel Dda
Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn yr adroddiad annibynnol terfynol gan Opinion Research Services (ORS) yn dilyn diwedd ei ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y safleoedd posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn ne rhanbarth Hywel Dda.

Roedd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 23 Chwefror a 19 Mai 2023, yn gwahodd y cyhoedd, staff byrddau iechyd, sefydliadau partner, a’r gymuned ehangach i rannu eu barn. Ystyriodd yr ymatebwyr dri opsiwn safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd arfaethedig; dau wedi’u lleoli ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

Y llynedd, cyflwynodd y bwrdd iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn ein hymgynghoriad â chymunedau a staff yn 2018, datblygwyd ein gweledigaeth i ddod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl.

“Gyda chynlluniau ar gyfer cyfres o ganolfannau iechyd a gofal integredig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro, bydd yr ysbyty newydd hwn yn rhan ganolog o wella gwasanaethau gofal arbenigol yn Hywel Dda a bydd yn darparu model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bwriad y dull hwn yw mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog gan gynnwys adeiladau ysbyty sy’n heneiddio, cynnal rotâu clinigol ar draws sawl safle, a heriau o ran recriwtio a chadw staff.”

Comisiynwyd Opinion Research Services (ORS) i gynghori, coladu a rheoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad bellach ar gael i’w adolygu ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/ Mae’r broses ymgynghori ar gyfer dewis safle ar gyfer yr ysbyty newydd wedi ennill Sicrwydd Ansawdd Arfer Gorau gan y Sefydliad Ymgynghori.

Fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, gofynnwyd i nifer o grwpiau rhanddeiliaid byrddau iechyd ystyried adroddiad ORS yn gydwybodol. Wrth wneud hynny, gofynnwyd iddynt a oedd unrhyw fesurau lliniaru pellach y dylai’r bwrdd iechyd fod yn eu hystyried, a oedd yr adroddiad wedi nodi’r holl faterion cydraddoldeb, ac unrhyw bwyntiau terfynol nad oedd wedi’u nodi eisoes.

Bydd adroddiad terfynol ORS, ynghyd ag allbwn y broses ystyriaeth gydwybodol, a’r adroddiadau technegol a masnachol, yn cael eu hystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Bwrdd am 10:30am ar 14 Medi. Yn ystod y cyfarfod, gofynnir i aelodau’r Bwrdd ystyried canfyddiadau allweddol adroddiad ORS, yn dilyn y cyfnod o ystyriaeth gydwybodol, ynghyd â’r adroddiadau technegol, masnachol a chyllid. Gofynnir i’r Bwrdd hefyd ystyried lleihau’r rhestr fer o safleoedd ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd o dri safle i ddau, a phenderfynu ar y ddau safle i symud ymlaen â nhw.

Mae cyfarfod arbennig y bwrdd ar gael i’r cyhoedd ei weld, mae manylion sut i wneud hynny ar gael ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/  Mae papurau’r Bwrdd a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod, a fydd yn cynnwys gwybodaeth dechnegol bellach yn ymwneud â’r tri safle, hefyd ar gael ar yr un ddolen.

Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i’r gymuned, staff, sefydliadau partner a phawb a roddodd o’u hamser i gwrdd â nhw a rhannu eu barn yn ystod y broses ymgynghori hon. Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y broses ymgynghori wrth iddo ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd.

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i wefan y bwrdd iechyd: Safle Ysbyty Newydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here