5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Education Mae Coleg Cambria wedi lansio rhaglenni therapïau cyflenwol newydd i helpu i...

Mae Coleg Cambria wedi lansio rhaglenni therapïau cyflenwol newydd i helpu i fynd i’r afael â’r chwydd mewn galw am weithwyr proffesiynol iechyd a harddwch wedi’u hyfforddi’n dda

0
576
massagecambria2 scaled
massagecambria2 scaled

Cyn agor yr adeilad iechyd a llesiant gwerth £14 miliwn y flwyddyn nesaf, mae safle Iâl y Coleg yn Wrecsam wedi lansio Diplomâu Lefel 3 a Lefel 4 mewn Adweitheg a Thylino, a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd.

Wedi’u hanelu at y rheiny sydd eisoes yn gweithio mewn swydd therapi harddwch neu bractis preifat, yn hunangyflogedig neu’n edrych am newid gyrfa, bydd y cyrsiau byr yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a gallent arwain at swyddi posibl mewn amgylchedd clinig, sba neu westy, hosbis, ysbyty, neu leoliad gofal iechyd.

Dywedodd Gemma Jones, Darlithydd Therapi gyda dros 20 o brofiad yn y sector, y byddant yn helpu i fodloni’r galw am ymarferwyr cymwys a medrus ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’r rhaglenni’n hyblyg, yn un diwrnod yr wythnos ac wedi’u hamseru’n dda iawn o ystyried y cynnydd yn y galw am y triniaethau hyn,” meddai.

“Bydd y rheini sy’n ymuno gyda ni’n datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod o’r gweithle, gan ychwanegu atyn nhw i ddod i ddeall anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch a gofal cleientiaid yn well byth. 

“Mae’r cyrsiau hyn hefyd yn cael eu hachredu gan VTCT (‘Vocational Training Charitable Trust’), sydd â rhinwedd werthu unigryw o safbwynt ansawdd, gan ychwanegu bri at ddawn a phrofiad ein staff addysgu.”

Dywedodd Gemma hefyd: “Mae iechyd a llesiant ar flaen meddyliau pawb, ac maen nhw’n cael rhagor a rhagor ar y triniaethau hyn. Ac mae perchnogion busnes yn enwedig yn dymuno gwneud y gorau o hynny, ond dydyn nhw’n methu gwneud hynny os nad ydy eu staff wedi eu hyfforddi i’r lefel iawn – mae rhai’n gorfod gwrthod cwsmeriaid. 

“Mae’r sgyrsiau rydyn ni wedi’u cael gyda phobl yn y sector yn tynnu sylw at angen gwirioneddol am therapyddion cyflenwol cymwys, felly rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i bontio’r bwlch hwnnw.”

Massage Cambria

Dywedodd Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Economi, Natalie Cliffe fod y coleg yn falch o gyflwyno’r ddarpariaeth ar ôl y pandemig cyn agor yr adeilad iechyd newydd, a fydd yn cynnwys sba a bar sudd masnachol o safon diwydiant wedi’i ddodrefnu’n llawn, wardiau sy’n efelychu rhai meddygol ac amgylcheddau rhith-realiti.

“Rydyn ni’n gosod y sylfeini ar gyfer y rhaglenni hyn sydd wedi cael eu hail-wampio, ac rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol yn barod,” meddai Natalie.

“Mae galw mawr yn y sector, a bydd dysgwyr yn ennill profiad amser go iawn mewn amgylchedd masnachol.

“Efallai eich bod chi’n meddwl am ddychwelyd i’r diwydiant, yn gweithio yn y sector iechyd a meddygol ac eisiau newid gyrfaoedd, neu’n rhywun hunangyflogedig neu’n dechrau ar eu siwrnai sydd angen gwella eu sgiliau yn yr amgylchedd gwaith i allu darparu’r gwasanaethau hyn i gleifion ar adeg pan nad oes llawer yn gwneud hynny gan nad ydyn nhw’n llwyr gymwys.

“Os ydy hyn yn berthnasol i chi, rŵan ydy’r amser i chi gymryd y cam ac ymuno gyda ni.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich lle, ewch i www.cambria.ac.uk neu anfonwch e-bost at gemma.jones@cambria.ac.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.