9.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Gwasanaeth Coffa Colli Babanod yn ailddechrau yn Ysbyty Llwynhelyg

Gwasanaeth Coffa Colli Babanod yn ailddechrau yn Ysbyty Llwynhelyg

0
397
withybush sign
withybush sign

Bydd y gwasanaeth coffa colli babanod blynyddol yn ailddechrau nos Iau 12 Hydref 2023 yng Nghapel Sant Luc yn ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd am 7pm.

Mae’r gwasanaeth ‘Forget Me Not’ yn cyd-redeg ag wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (9-15 Hydref) ac yn cael ei drefnu gan dimau Bydwreigiaeth a Phrofedigaeth a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth).

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio a dod at ei gilydd i dalu parch ac ysgrifennu neges mewn man diogel.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig i rieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofiad trist iawn o golli baban.

“Mae colli babanod adeg beichiogrwydd yn alar unig iawn. Mae’r cyfnod yma yn amser i gasglu a chofio’r babanod gwerthfawr boed y golled yn ddiweddar neu yn y gorffennol pell.”

I gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, bydd gan Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth oleuadau pinc a glas yn y Capel/Ystafell Dawel. Daw’r wythnos i ben gyda’r ‘Ton o Oleuni’ ar 15 Hydref, sy’n cael ei chydnabod ar draws y byd.

Bydd cannwyll (a weithredir â batri) yn cael ei chynnau am 7pm gan yr Uwch Gaplan er cof am yr holl fabanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyd, anfonwch neges at Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk  erbyn dydd Mawrth 10 Hydref 2023

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.