Mi fydd Ceredigion, sir nawdd CAFC 2024 yn cynnal Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Traswsgoed ar ddydd Iau 30 o Fai 2024.
Cefnogir y digwyddiad gan y prif noddwyr Germinal a DeLaval.
Bydd digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024 yn croesawu nifer o arweinwyr diwydiant, sefydliadau a chwmnïau o bob sector gan ei wneud yn ymweliad hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ffermio.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
· Teithiau Fferm – bydd teithiau’n cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd gan aros mewn gwahanol safleoedd a phwyntiau o ddiddordeb sy’n dangos y dull cyfredol sy’n cael ei roi ar waith ar y fferm.
· Stondinau Masnach – sefydliadau a busnesau ar gyfer y sectorau âr a da byw
· Seminarau – Seminarau a sesiynau holi ac ateb trwy gydol y dydd gan ffermwyr blaenllaw yn y diwydiant ac aelodau seneddol.
· Arddangosiadau byw Silwair a Thail – llu o arddangosiadau gweithio gan amrywiaeth o gynhyrchwyr peiriannau, gan gynnwys arddangosiadau drilio uniongyrchol.
· Lletygarwch – Bar ac ardal arlwyo.
· Adloniant gyda’r hwyr
Gyda nifer o gwmniau blaenllaw yn y sector amaethyddol, peirianneg a gwledig wedi ymrwymo i un o’r pecynnau nawdd, mae yna gyfleoedd nawdd, stondinau masnach a hysbysebu amrywiol ar gael o hyd.
Ewch i’n gwefan www.cafc.cymru/digwyddiadglaswelltir am ragor o wybodaeth a manylion am gyfleoedd i’ch busnes.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni: Info@royalwelshgrasslandevent.com neu ffoniwch Wyn Evans (Cadeirydd) ar 07817 592 411, Eleri James (Ysgrifennydd) ar 07976 100 043 neu Rhian Davies (Trysorydd) ar 07751 789 865.
Mae Prifysgol Aberystwyth a’r pwyllgor cyfan yn eich croesawu i weld y cyfleusterau ac yn edrych ymlaen at ddiwrnod llwyddiannus iawn o rannu gwybodaeth er mwyn cynnal cynhyrchu bwyd yn effeithlon yn yr hinsawdd newidiol. Bydd tocynnau cynnar ar gyfer y digwyddiad blaenllaw ar gael o 1 Ionawr 2024 ac 1 Ebrill 2024
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















