8 C
Llanelli
Saturday, October 17, 2026
Home Awards Tîm mamolaeth yn ennill gwobr genedlaethol am ddiogelwch cleifion

Tîm mamolaeth yn ennill gwobr genedlaethol am ddiogelwch cleifion

0
45
89867370a7c9cde6 org
89867370a7c9cde6 org

Llongyfarchiadau i Dîm Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a enillodd Wobrau Diogelwch Cleifion HSJ 2023 yn y categori Datblygu Diwylliant Diogelwch Cadarnhaol. Roeddent hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Addysg a Hyfforddiant Diogelwch Cleifion.

Cydnabuwyd y tîm am eu hymdrechion i newid diwylliant y gweithle o amgylch digwyddiadau niweidiol mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.

Mae’r tîm buddugol yn cynnwys Cerian Llewelyn, Bethan Osmundsen, Miss Tipswalo Day, Mr Matthew Pickup, Mr Ihab Abbasi, Mr Letchuman Shankar, Lisa George, Faith Wirral, Kristy Hutch, Sian Thomas, Elizabeth Rees, Alison Jones, Lynn Hurley, Emma Booth, Manal Elbadrawy, Mr Prem Kumar, Sandra Pegram a Kirsty Harrington Butcher.

Mynychodd aelodau’r tîm y seremoni wobrwyo ym Manceinion yn ddiweddar.

Dywedodd y Pennaeth Bydwreigiaeth Kathy Greaves: “Mae sicrhau bod ein darpar famau a’n staff yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gofal da yn ystod eu hamser yn ein hunedau mamolaeth ar draws ardal Hywel Dda yn hynod bwysig i ni. Felly mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’n holl waith caled a’n cynnydd. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm a diolch am eich holl ymroddiad a gwaith caled.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o Kathryn a’r tîm – maent yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod rhieni’n teimlo eu bod yn cael y profiad gorau posibl yn ystod eu hamser yn ein gwasanaeth. Diolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi chwarae eu rhan i ennill y wobr.”

Mae Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ yn helpu i ysgogi gwelliannau mewn diwylliant ac ansawdd ar draws y GIG. Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn gwobrwyo’r timau a’r unigolion gweithgar sydd, yn y cyfnod hwn o galedi, cyfyngiadau cyflog a phrinder gweithlu, yn ymdrechu i ddarparu gwell gofal i gleifion.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.