9.7 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home hywel dda health board Annog gweithwyr gofal cartref i fanteisio ar y cynnig o frechlynnau’r gaeaf

Annog gweithwyr gofal cartref i fanteisio ar y cynnig o frechlynnau’r gaeaf

0
353
9ebcdd042d7f69f1 org
9ebcdd042d7f69f1 org

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa’r rhai sy’n darparu gofal cartref eu bod yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthol am ddim rhag y ffliw a COVID-19 y gaeaf hwn.

Mae gan y sector gofal cymdeithasol rôl hollbwysig i’w chwarae wrth ofalu am bobl gartref ac atal derbyniadau i’r ysbyty dros gyfnod y gaeaf, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn.

Gall gweithwyr gofal cartref gyrchu brechlyn ffliw rhad ac am ddim trwy fferyllfeydd cymunedol. Mae rhai fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cynnig y brechlyn COVID-19 a gellir rhoi’r ddau frechlyn yn ddiogel ar yr un pryd.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gwahodd gweithwyr gofal cartref i dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu ffliw a COVID-19 yr hydref mewn canolfan frechu leol neu gallant gysylltu â’u practis meddyg teulu.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r rhai sy’n darparu gofal cartref i bobl yn eu cartrefi yn rhan hanfodol o’r system gofal iechyd ac mae’n bwysig eu bod yn cael yr amddiffyniad a ddarperir gan y ffliw a COVID- 19 o frechiadau atgyfnerthu y gaeaf hwn.

“Gwyddom y gall brechu fod yn effeithiol wrth leihau lledaeniad clefydau mewn lleoliadau gofal. Dyna pam ei bod nid yn unig yn hanfodol bwysig bod pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o’r ffliw a COVID-19 yn cael y brechlynnau, ond bod y rhai sy’n gweithio gyda nhw ac ochr yn ochr â nhw hefyd yn cael eu hamddiffyn.

“Gall gweithwyr gofal cartref yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ymweld â biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol i ddod o hyd i’w fferyllfa leol sy’n darparu’r brechlyn ffliw a chysylltu â canolfan gyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda os nad ydynt wedi derbyn neu’n dymuno aildrefnu apwyntiad ar gyfer apwyntiad brechlyn COVID-19 ar 0300 303 8322 neu ask.hdd@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.