8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Ceisio eich barn ar gais i gau Meddygfa Cangen Talacharn yn...

Ceisio eich barn ar gais i gau Meddygfa Cangen Talacharn yn Sir Gaerfyrddin

0
276
hywel dda graphic min
hywel dda graphic min

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Dyma’r prif resymau dros y cais:

  • Mae’r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu’r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid o Feddygon Teulu Meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Feddygfa i’r dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

Mae Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn esbonio’r broses: “Unwaith y bydd cais i gau meddygfa gangen yn dod i law, mae’r Bwrdd Iechyd yn dechrau ei Broses Adolygu Practis Cangen, a reolir yn annibynnol ar Feddygfa Coach and Horses.

“Mae’r broses sy’n nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i gael ac adolygu’r cais i gau. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chleifion a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cael eu barn, sy’n cynnwys ymgysylltu â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd.

“Unwaith y bydd yr holl brosesau hyn wedi’u cwblhau, rydym yn dechrau ar gyfnod o ystyriaeth gydwybodol o’r adborth a gawsom. Gwneir hyn i gyd yn annibynnol ar y Feddygfa, er ein bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn cynnwys eu cynrychiolydd yn ein cyfarfodydd.

“Yn olaf, mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried pan fydd y Bwrdd yn cyfarfod yn gyhoeddus i ystyried penderfyniad terfynol ar y cais.”

Cynhelir y cyfnod ymgysylltu hwn rhwng 1 a 30 Tachwedd 2023. Gall cleifion ac aelodau o’r gymuned ehangach ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd:

  • Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, unrhyw bryd rhwng 2pm tan 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG

Rhoi adborth yn uniongyrchol i Llais, Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.