12.7 C
Llanelli
Tuesday, October 27, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Elusen y GIG yn ariannu cadair archwilio gwerth dros £5,500 ar gyfer...

Elusen y GIG yn ariannu cadair archwilio gwerth dros £5,500 ar gyfer cleifion gynaecoleg

0
445
Gynaecology chair photo
Gynaecology chair photo

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cadair archwilio gynaecoleg ar gost o £5,834 i’w defnyddio yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin.

 Bydd y gadair, a fydd yn cael ei defnyddio i helpu cleifion yn yr ystafell archwilio clinigol newydd yn Ysbyty Glangwili, yn galluogi staff i weld, adolygu ac ymgynghori â chleifion canser gynaecoleg mewn modd mwy amserol.

 Dywedodd Helen Frise-Jones, Nyrs Glinigol Arbenigol Gynaecoleg Oncoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi galluogi’r gadair hon i gael ei phrynu ar gyfer yr ystafell archwiliadau clinigol newydd.

 “Mae’r gadair newydd wedi galluogi ein gwasanaethau i ddarparu ystafell Mynediad Cyflym benodedig lle gallwn weld cleifion yr amheuir neu y canfyddir bod ganddynt ganser gynaecoleg. Mae’r ystafell newydd hon wedi cyflymu amseroedd aros y llwybr canser drwy gyfeirio cleifion yn syth i’r clinig hwn.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.