10.1 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Newyddion Lle Data ar domenni glo segur Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw

Data ar domenni glo segur Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw

0
670
Disused Coal Tips MS Point SAMPLE BG 003
Disused Coal Tips MS Point SAMPLE BG 003

Mae nifer y tomenni glo segur yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw ar fapiau rhyngweithiol sy’n dangos lleoliad y 350 sy’n cael eu harchwilio’n amlach.

Cyhoeddir y data ar ôl sefydlu’r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020.

Un o amcanion allweddol y tasglu yw llenwi’r bwlch gwybodaeth am domenni glo segur ac, i’r perwyl hwnnw, comisiynwyd yr Awdurdod Glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i arwain prosiect casglu data.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o’r tomenni fesul Awdurdod Lleol gyda’r tomenni oedd angen eu harchwilio’n amlach yn cael eu categoreiddio’n rhai C a D.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Hoffwn i ddiolch i’r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cymorth a’u cefnogaeth wrth baratoi’r data i’w gyhoeddi.

Mae nodi, cofnodi a chategoreiddio’r holl domenni glo segur yng Nghymru mewn un gronfa ddata ganolog, nad oedd yn bodoli o’r blaen, wedi golygu ymdrech enfawr.

Ar gyfer y datganiad data hwn, rydym wedi canolbwyntio ar domenni categori C a D, gan fod angen eu harchwilio’n amlach fel y gallwn ni nodi a chynnal unrhyw waith cynnal a chadw pan fo angen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at tua 1,500 o berchnogion tir a thua 600 o feddianwyr eiddo ledled Cymru i’w hysbysu ei bod yn debygol bod tomen lo gyfan neu ran o domen lo segur ar eu tir.

Bydd gwaith cynnal ac arolygu yn parhau yn ôl yr arfer, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £44.4m ychwanegol ar gael i Awdurdodau Lleol i waith allu parhau ar domenni cyhoeddus a phreifat.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tudalen we bwrpasol ac mae hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio mewn cymunedau yr effeithir arnynt ledled Cymru ac yn cynnal digwyddiadau ar-lein i gefnogi preswylwyr.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Yn ein Rhaglen Lywodraethu, gwnaethon ni hefyd ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo’n ddiogel nawr ac yn y dyfodol.

“Bydd ein cynigion yn gwneud hynny drwy osod trefn hirdymor, addas i’r diben o dan arweiniad corff cyhoeddus newydd.

“Gwnaeth y Prif Weinidog gynnwys y Bil Tomenni Glo nas Defnyddir yn ei ddatganiad deddfwriaethol yn haf 2023, ac edrychaf ymlaen at weld datblygiad y Bil pan gaiff ei gyflwyno i’r Senedd y flwyddyn nesaf.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.