11.4 C
Llanelli
Monday, October 19, 2026
Home Farming Ffermwyr defaid Cymru i helpu Cyswllt Ffermio i greu EBV ar gyfer...

Ffermwyr defaid Cymru i helpu Cyswllt Ffermio i greu EBV ar gyfer cynnyrch metha

0
480
Livestock from a previous Farming Connect Demonstration Site min scaled
Livestock from a previous Farming Connect Demonstration Site min scaled

Gallai ffermwyr Cymru gael y dewis cyn bo hir i fridio defaid ag ôl troed carbon isel naturiol, diolch i brosiect Cyswllt Ffermio newydd sydd â’r uchelgais o greu gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) ar gyfer cynnyrch methan.

Mae allyriadau o ŵyn mewn diadelloedd sy’n rhan o Brosiect Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio yn cael eu mesur gyda siambrau cronni cludadwy.

Dim ond un elfen yw hon o sawl un sy’n gysylltiedig â geneteg y bydd y rhaglen yn ymchwilio iddynt dros y ddwy flynedd nesaf i helpu ffermwyr i gryfhau perfformiad y ddiadell, gwella cynhyrchiant a chynyddu proffidioldeb, ond mae’n un bwysig, meddai Heledd Dancer, Swyddog Geneteg Defaid Cyswllt Ffermio ar gyfer Canolbarth Cymru, gan y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr ddewis anifeiliaid sy’n cynhyrchu llai o fethan yn eneteg.

Bydd hyn yn helpu ffermwyr i asesu a newid eu rhaglen a’u system fridio i ddewis defaid ag allyriadau methan is, gan eu galluogi i leihau ôl troed carbon eu diadell a’u fferm yn ogystal â chyfrannu fel diwydiant at leihau effaith amgylcheddol gyffredinol allyriadau methan.

“Rydym yn rhoi’r cyfle unigryw i ffermwyr ddatblygu’r EBV hwn gyda ni,” meddai Heledd.

“Rydym ni’n gwybod bod defaid yn cynhyrchu methan ac rydym ni’n gwybod bod yna berthynas rhwng ffactorau megis maint y perfedd, felly’r bwriad yw darganfod pa anifeiliaid yn eu diadell a all gyfrannu at leihau allyriadau methan.”

Mae’r siambrau’n caniatáu mesuriadau o hyd at 12 dafad ar y tro – bydd hyn yn cael ei wneud gan Innovis o Aberystwyth, sy’n gweithio ar y cyd â Cyswllt Ffermio ar y prosiect hwn; er mwyn sicrhau cysondeb, cedwir y defaid hynny ar yr un drefn bori am y tair wythnos flaenorol.

Gan fod cynnyrch methan yn nodwedd etifeddadwy, bydd mesuriadau’n cael eu cymryd o ŵyn sydd wedi’u cynhyrchu gan amrywiaeth o hyrddod.

Nod y prosiect yw cymryd mesuriadau o dros 1000 o ŵyn dros gyfnod o ddwy flynedd.

Dywedodd Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid gyda Cyswllt Ffermio, fod y nifer hwn yn ddigon i ddatblygu EBV defnyddiadwy ar gyfer cynnyrch methan.

“Byddai hefyd yn ddigon i roi amcangyfrif da i ni o etifeddolrwydd yn y boblogaeth, yr ydym fel arfer yn ystyried 900-1000 o anifeiliaid fel y lleiafswm,” meddai.

Mae tystiolaeth dda bod gan ddefaid sy’n cynhyrchu llai o fethan gyfaint reticwlwm is, felly bydd y prosiect hefyd yn defnyddio sganio CT i gael mesuriadau cywir o ddimensiynau reticwlwm yn yr anifail byw.

“Mae’n hanfodol ein bod yn deall newidiadau yng nghyfaint reticwlwm a all fod yn gysylltiedig â magu defaid â chynhyrchiant methan is fel y gallwn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ran gallu’r defaid i ddefnyddio porthiant o ansawdd isel,” meddai Gwawr.

Erbyn hyn, mae dros gant o ddiadelloedd yn rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru o fewn dwy haen, sydd hefyd yn cynnwys diadelloedd a symudodd o Gynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru.

Mae Haen 1 yn ymwneud yn benodol â bridiau mynydd ac ucheldir tra bod Haen 2 ar gyfer bridiau mamol gan gynnwys Wyneblas Caerlŷr, Lleyn, Charmoise Hill a Romney.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.