23.9 C
Llanelli
Tuesday, May 26, 2026
Home hywel dda health board Mae salwch anadlol ar gynnydd. Amddiffynwch eich hun ac anwyliaid gyda brechlyn...

Mae salwch anadlol ar gynnydd. Amddiffynwch eich hun ac anwyliaid gyda brechlyn y gaeaf hwn

0
381
baecc891baa73c92 org
baecc891baa73c92 org

Mae pobl sy’n gymwys i dderbyn brechlynnau salwch anadlol y gaeaf yn cael eu hannog i ddod ymlaen i gael eu brechu i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn cyn dychwelyd i’r ysgol a gweithio yn y Flwyddyn Newydd. Mae nifer yr achosion o’r ffliw ar gynnydd ar draws Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi cadarnhau y bydd ei ganolfannau brechu ar agor ar ôl y Nadolig o ddydd Mercher 27 Rhagfyr a thrwy gydol mis Ionawr i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl amddiffyn eu hunain.

Gall y ffliw fod yn salwch difrifol ac mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithredu i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae’n arbennig o bwysig bod pobl â chyflyrau cronig sylfaenol yn cael eu brechu gan ei fod yn eu hamddiffyn rhag cael salwch difrifol. Mae hefyd yn bwysig bod plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn ffliw trwynol. Y ffliw oedd y prif reswm dros bron i 800 o blant 2-16 oed gael eu derbyn i’r ysbyty ledled Cymru.

Gall cymhlethdodau o’r ffliw gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau ar y glust. Mae’r brechlyn yn lleihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn mynd yn sâl iawn ac yn helpu i leihau lledaenu’r ffliw i ffrindiau a theulu sydd â risg uchel, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.

Gall rhieni ddarganfod mwy am y brechlyn ffliw trwynol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn  phw.nhs.wales/vaccines

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yr wythnos hon, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data sy’n dangos achosion o’r ffliw a gofnodwyd fwy na dyblu yn ystod y tair wythnos ddiwethaf.

“Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol mewn profion ffliw positif yng Nghymru, gan godi o 2.4% yn yr wythnos a ddaeth i ben 27 Tachwedd i 4.4% yn yr wythnos hyd at 11 Rhagfyr.

“Mae adroddiadau hefyd yn dangos bod canran y galwadau sy’n gysylltiedig â’r ffliw i GIG 111 Cymru wedi cynyddu i 21.2%, i fyny o 18.7% yr wythnos flaenorol.

“Mae’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu’r ffliw yn cael eu lleihau’n fawr trwy frechu, yn ogystal â’r risgiau o ledaenu’r firysau hyn.

“Os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw neu frechlyn COVID-19, mae’n golygu eich bod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r salwch hyn, neu rydych yn byw gyda rhywun agored i niwed neu’n gofalu amdano. Nid yw’n rhy hwyr i ddod ymlaen i gael eich brechu. Fel hyn, byddwch yn amddiffyn eich hun ac yn sicrhau eich bod chi a’ch anwyliaid yn cael yr amddiffyniad y mae’r brechlynnau’n ei gynnig cyn dychwelyd i’r ysgol neu weithio yn y Flwyddyn Newydd.”

Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Gyda’r ffliw a Covid-19 yn cylchredeg y gaeaf hwn, mae’n hanfodol bod pawb sy’n gymwys yn cael y ddau frechlyn cyn gynted â phosibl.

Ni fu erioed yn haws cael eich diogelu rhag salwch anadlol cyffredin yn y gaeaf gyda chlinigau galw heibio yn parhau ar ôl y Nadolig a thrwy gydol mis Ionawr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall pobl sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw sy’n 18 oed neu’n hŷn alw heibio i ganolfan frechu, nid oes angen apwyntiad. Gofynnir i unrhyw un o dan 18 oed sydd angen brechlyn ffliw gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu anfon e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eu brechlyn.

Gall pobl sy’n gymwys i gael brechlyn COVID-19 sy’n 12 oed neu’n hŷn alw heibio, nid oes angen apwyntiad, ond os oes angen i chi drefnu brechlyn COVID-19 i rywun dan 12 oed, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Amseroedd agor galw heibio’r ganolfan frechu:

  • Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9.30am i 5.30pm Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Iau.
  • Neyland (Uned 1 Parc Diwydiannol Honeyborough, SA73 1SE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
  • Caerfyrddin (Clwb Criced Wanderers, Caeau’r Drindod, Johnstown, SA31 3NE) – 9.30am i 5.30pm pob dydd Gwener yn dechrau ar 5 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu os ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i’ch cynghori.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here