8.7 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Digwyddiad galw heibio ychwanegol i drafod cais i gau meddygfa

Digwyddiad galw heibio ychwanegol i drafod cais i gau meddygfa

0
343
9038ddae96e89d60 org min scaled
9038ddae96e89d60 org min scaled

Cynhelir digwyddiad galw heibio cyhoeddus ychwanegol yn Nhalacharn yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, 6 Chwefror)  i roi cyfle pellach i drigolion drafod y cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Gangen Talacharn.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n trefnu’r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 3.00pm a 6.00pm yn Neuadd Goffa Talacharn.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Gangen yn Nhalacharn yn Sir Gaerfyrddin y llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Jill Paterson: “Mewn ymateb i nifer y cleifion sydd wedi mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ond nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu codi eu holl bryderon yn y sesiwn ym mis Tachwedd 2023 cynhelir digwyddiad ymgysylltu pellach ar gyfer y rhai nad ydynt wedi cael y cyfle i rannu eu barn hyd yn hyn.

“Bydd yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan gleifion a rhanddeiliaid yn y rhaglen ymgysylltu hyd yn hyn yn cael ei lunio gyda’r safbwyntiau o ail ddigwyddiad, a’r digwyddiad olaf, i’w gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. Bydd argymhelliad ar y ffordd ymlaen yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2024.”

Y prif resymau a roddwyd gan y Practis dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:

  • Mae’r Practis wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol, mae’r Partneriaid Meddygon Teulu yn teimlo y bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Practis Meddyg Teulu yn y dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.