12.4 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Diwrnod Golff er budd Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip

Diwrnod Golff er budd Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip

0
377
Estates golf team
Estates golf team

Yn galw ar bob golffiwr! Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip y gwanwyn hwn drwy gymryd rhan mewn diwrnod golff elusennol llawn hwyl.

 

Mae’r Tîm Cydymffurfiaeth Ystadau yn Ysbyty Tywysog Philip wedi trefnu diwrnod golff elusennol er budd yr Apêl. Cynhelir y digwyddiad yng Nghlwb Golff Glynhir yn Llandybïe ar 10 Mai 2024.

 

Mae mynediad yn £200 i dîm o bedwar person sydd hefyd yn cynnwys rholyn bacwn a choffi wrth gyrraedd a phryd un cwrs.

 

Bydd y diwrnod golff yn cael ei chwarae ar fformat stableford, a bydd timau yn cael cyfle i ennill gwobrau gwych!

 

Dywedodd James Smart, Technegydd CAD yn y Tîm Cydymffurfiaeth Ystadau: “Yn dilyn llwyddiant digwyddiad elusennol y llynedd, pan lwyddodd 55 o gefnogwyr i godi swm o £2,775, mae ein diwrnod golff yn dychwelyd eleni ar gyfer rownd arall i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 

“Eleni rydym yn falch iawn o fod yn codi arian ar gyfer Apêl Gerddi sy’n anelu at greu gerddi therapiwtig newydd gyda mynediad i hyd yn oed y cleifion mwyaf bregus i gefnogi eu lles meddyliol a chorfforol.

 

“Trwy ymdrechion ar y cyd, ein nod yw adeiladu ar ddigwyddiad y llynedd a darparu’r cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer yr Apêl.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Golff ac i gofrestru, e-bostiwch: estates.compliance.hdd@wales.nhs.uk.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i:https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleLocal community comes together to support gardens Appeal
Next articlePolice appeal for information
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here