8.7 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Diweddariad pwysig i gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd Cross Hands a’r...

Diweddariad pwysig i gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl

0
418
baecc891baa73c92 org
baecc891baa73c92 org

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa cleifion meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl y bydd Partneriaeth Aman Tawe yn ymgymryd â’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar 1 Ebrill 2024.

Ym mis Chwefror, cadarnhaodd BIP Hywel Dda fod y contract wedi’i wobrwyo i’r Bartneriaeth amlddisgyblaethol a phrofiadol, sydd eisoes yn darparu gofal i gleifion Hywel Dda ar draws Gwauncaegurwen, Garnant a Brynaman.

Mae’r rhan fwyaf o aelodau tîm presennol y meddygfeydd wedi dewis parhau yn eu rolau a byddant yn trosglwyddo i’r rheolwyr newydd, gan sicrhau parhad da i gleifion cofrestredig.

Yn anffodus, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cael gwybod yn ddiweddar iawn gan berchnogion adeilad Meddygfa’r Tymbl, na fydd y cyfleuster hwn ar gael i’w brydlesu o 1 Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl apwyntiadau a gwasanaethau yn cael eu darparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands yn unig.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio’n gyflym gyda’r Bartneriaeth i flaenoriaethu’r newidiadau angenrheidiol i Ganolfan Iechyd Cross Hands er mwyn darparu ar gyfer yr apwyntiadau cleifion ychwanegol a’r staff o Feddygfa’r Tymbl a fydd yn trosglwyddo i Bartneriaeth Aman Tawe ar 1 Ebrill.

Mae cynlluniau hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer Canolfan Iechyd a Llesiant newydd yn Cross Hands, a’r gobaith yw y bydd y feddygfa’n gallu dechrau darparu gwasanaethau o’r adeilad modern a phwrpasol hwn yn 2026.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Meddygfa’r Tymbl wedi’i defnyddio’n bennaf fel canolfan ar gyfer y tîm gweinyddol, ar gyfer rhai apwyntiadau nyrsys a nifer cyfyngedig o apwyntiadau meddygon teulu. Yn y dyfodol, bydd pob apwyntiad meddyg teulu yn cael ei ddarparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands.

“Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Iechyd yn deall y gallai cau Meddygfa’r Tymbl gael effaith ar rai cleifion. Os oes angen rhagor o wybodaeth ar unrhyw glaf sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl, ffoniwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD.

“Ar ran y Bwrdd Iechyd, y feddygfa a thîm rheoli Partneriaeth Aman Tawe, hoffwn ddiolch i gleifion am eu cefnogaeth barhaus ar yr adeg hon o newid a rhoi sicrwydd bod pawb sy’n gysylltiedig yn cydweithio i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar gleifion a gwasanaethau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.