7.5 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Pob ward yr effeithir arnynt gan RAAC wedi eu hailagor

Pob ward yr effeithir arnynt gan RAAC wedi eu hailagor

0
329
a7a5c157cd32e726 org
a7a5c157cd32e726 org

Mae pob un o’r chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd a gafodd eu cau oherwydd presenoldeb planciau RAAC y llynedd nawr wedi eu hailagor.

Caewyd chwech o’r 12 ward yn ysbyty Sir Benfro yr haf diwethaf ar ôl i nifer sylweddol o concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) gael eu darganfod yn adeilad yr ysbyty.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddigwyddiad mawr mewnol er mwyn canfod maint ac effaith RAAC ar y safle ac er mwyn cynnal arolwg a gwaith atgyweirio brys.

Yn ogystal â’r chwe ward, roedd ardaloedd ar y llawr gwaelod a’r gegin, gan gynnwys ystafelloedd cleifion allanol ac ystafelloedd clinig ar gau hefyd.

Cafodd wardiau 7, 9 a 12 eu hailagor adeg y Nadolig; Roedd Ward 11 yn gweithredu unwaith eto ym mis Ionawr tra bod Ward 10 yn cael ei hailagor yn gynharach y mis hwn.

Fe ddaeth gwaith i ben ar Ward 8, y ward olaf i ail-agor, wythnos ddiwethaf.

Un o’r gwasanaethau yr effeithiwyd arno fwyaf gan arolwg a gwaith atgyweirio RAAC sy’n mynd rhagddo yw llawdriniaeth ddewisol i gleifion mewnol, ond wrth i bob ward gael ei hailagor, caiff hyn ei gyflwyno’n ôl i’r ysbyty yn awr.

Fodd bynnag, mae rhywfaint o waith helaeth i’w wneud o hyd ar y Llawr Gwaelod yn Llwynhelyg gan gynnwys yn Adrannau Cleifion Allanol A a B a’r Adran Ffisiotherapi sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac sy’n cael eu cefnogi’n llawn dros dro gyda phropiau ac sy’n ddiogel i weithredu ynddynt.

Mae’n debygol y bydd aflonyddwch pan fydd y mannau hyn ar gau er mwyn i waith atgyweirio gael ei wneud.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Andrew Carrurthers: “Rydym yn falch iawn bod y wardiau a gaewyd wrth i ni wneud gwaith atgyweirio hanfodol concrit RAAC nawr i gyd yn gweithredu fel arfer.

“Ac er bod llawer o waith i’w wneud o hyd i reoli’r arolwg a’r gwaith atgyweirio o ganlyniad i ddarganfod concrit RAAC, rydym bellach mewn lle llawer gwell nag yr adeg hon y llynedd.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i staff sydd wedi gorfod addasu’n gyflym iawn i sefyllfa sy’n newid yn gyflym. Mae hyn ar ben gaeaf anodd sydd wedi gweld Adrannau Achosion Brys (A&E) yn ein holl ysbytai yn gorfod ymdopi dan bwysau aruthrol. Gobeithiwn y bydd ailagor y wardiau yn Llwynhelyg yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau hwn.

“Mae ein staff wedi dangos gwaith tîm anhygoel a gwydnwch yn ystod cyfnod anodd iawn, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i’n cleifion ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi’u heffeithio gan y gwaith parhaus. Mae rhai wedi gorfod cael eu trin mewn lleoliadau amgen o fewn ardal y bwrdd iechyd, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.

“Daethpwyd â’r digwyddiad mawr mewnol a ddatganwyd yn Ysbyty Llwynhelyg i ben ym mis Ionawr, ond bydd gwaith arolygu ac atgyweirio’n parhau tan wanwyn 2025, felly mae tipyn o ffordd i fynd cyn i ysbyty Llwynhelyg ddychwelyd i wasanaeth arferol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n staff, cleifion a’r cyhoedd a rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.”

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a’r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi ei gadarnhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ac adeiladau cyhoeddus eraill megis ysgolion, ledled y DU.

Mae rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar wefan Hywel Dda RAAC – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.