18.2 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Newyddion Lle 7 ffordd i ddarganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r gwanwyn hwn

7 ffordd i ddarganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r gwanwyn hwn

0
537
St Davids Cathedral
St Davids Cathedral

Nid Parc Cenedlaethol arferol ‘mo Arfordir Penfro. Mae’n arfordirol i ddechrau! 

Fel un o dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru a phymtheg ar draws y DU, dyma’r unig un sy’n bodoli’n bennaf oherwydd ei arfordir. Mae hefyd wedi’i rannu’n bedwar rhan, pob un gyda’i nodweddion unigryw ei hun – perffaith er mwyn darganfod wrth i ni groesawu tymor newydd y gwanwyn. 

P’un ai mwynhau milltiroedd o draethau euraid sydd gennych mewn golwg, neu gerdded llwybrau i edrych i lawr ar y tonnau, mae gan Arfordir Penfro 186 milltir o olygfeydd arfordirol, yn amrywio o greigiau folcanig ysgithrog yn y gogledd i glogwyni calch uchel yn y de.

P’un ai’n mwynhau seibiant byr ar hyd yr arfordir y gwanwyn hwn, neu ond yn chwilio am ddiwrnod allan yn lleol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhannu 7 peth i’w gwneud dros y misoedd *croesi bysedd* cynhesach.

1. Gweld y Parc Cenedlaethol ar ddwy olwyn 

Er bod Arfordir Penfro’n un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y DU, mae llawer mwy i’w ddarganfod nag y meddyliwch! Felly i’ch helpu i fynd o A i B yn gynt – a threchu bryniau serth yr ardal (gwyddom eich bod wrth eich bodd yn meddwl am bedalau trydan!) — bydd ein e-feics yn ateb y pwrpas.  

Wedi eu lleoli yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, bydd beics trydan cyffyrddus a llawn steil yn barod i chi eu llogi. Gyda fframiau camu trwodd a basged ar y blaen, maen nhw’n ateb gofynion ymarferol a hawdd i’w defnyddio.  Felly beth am bacio’r picnic a mynd ar antur – ac antur gynaliadwy at hynny! 

Bydd reidio beic ar hyd Arfordir Penfro bob tro’n cyfuno canrifoedd o hanes gyda diwylliant a golygfeydd ysblennydd ein gwlad – ond mae hefyd yn lleihau tagfeydd traffig ac allyriadau carbon. Ond mae diogelwch yn allweddol bwysig felly cofiwch ddod â’ch helmed o gartre’. 

Ebikes

 

2. Cael eich ysbrydoli gan y genhedlaeth nesaf o artistiaid 

Dewch i ymgolli yn nhirlun Cymru drwy lygaid artistiaid; gweld hanes lleol yn dod yn fyw drwy liw, a thanio eich dychymyg wrth i chi fynd o gwmpas un o’r nifer o arddangosfeydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc

Dim ond tafliad carreg o Gadeirlan Tyddewi a thraethau hyfryd, mae’r ganolfan yn rhad ac am ddim i fynd i mewn ac yn cynnwys rhaglen amrywiol o arddangosfeydd gan Amgueddfa Cymru, ac artistiaid lleol, yn ogystal ag ardal bicnic, caffi a siop.


3. Ymweld â dinas leiaf y DU – oddi mewn i’r Parc Cenedlaethol!

Gyda phoblogaeth o ychydig dros 1,700 o bobl, mae Tyddewi yn ymfalchïo mewn bod y ddinas leiaf ym Mhrydain – ond er yn fach, mae ei thirluniau godidog, ei hanes a’i danteithion blasus yn fwy na gwneud iawn am hynny.

Ar ôl mwynhau celfyddyd a diwylliant yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gall ymwelwyr ymgolli yng ngolygfeydd garw, ysblennydd Llwybr Arfordir Penfro. Wrth fynd am dro ar hyd llwybr arfordirol Penmaen Dewi, sy’n 5 milltir o hyd, gallwch ddisgwyl gweld myrdd o fân ynysoedd, amrywiaeth o fywyd gwyllt rhyfeddol ac amryw o henebion cynhanesyddol – gan gynnwys Coetan Arthur, gweddillion siambr gladdu Neolithig.

Mae un peth yn sicr – ni fyddwch byth yn brin o rywle i gymryd yr ‘hun-lun’ perffaith yn Nhyddewi! 

St Davids Head

 

4. Profi bywyd Oes yr Haearn

Beth am fynd ar antur gynhanesyddol ddigyffelyb i weld nid yn unig sut beth oedd bywyd i lwyth hynafol y Demetae a arferai â byw yn y gornel hon o Gymru dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl – ond hefyd i’w brofi drwy eich synhwyrau!

Gallwch gyfarfod â phentrefwyr cyfeillgar Oes yr Haearn, gweld eu sgiliau a’u crefftau a dysgu sut yr oedden nhw’n byw’n gynaliadwy ac mewn cytgord â’r tir. 

Mae pentref Oes Haearn Castell Henllys yn dod â’r hanes yn fyw. O hud a lledrith y derwyddon, lle y dysgwch sut i gynnau tân a gwneud bara, i weithdai brethyn cynhanesyddol – y gwanwyn hwn gall y teulu i gyd weld sut yr oedd pobl yn byw yn Oes yr Haearn yng Nghymru.

Castell Henllys

5. Ymdrochi yn nŵr un o draethau Baner Las Sir Benfro

Wyddoch chi fod gan Sir Benfro fwy o draethau Baner Las na’r un sir arall yng Nghymru? Ond nid llefydd i fynd â bwced a rhaw’n unig ydy’r rhain, na wir – o chwaraeon dŵr i wylio bywyd gwyllt, mae yma rywbeth i bawb ei fwynhau. 

Os ydych yn chwilio am fynediad hwylus, mae gan Saundersfoot lithrfa goncrid i fynd â chi lawr i ddŵr bas – perffaith i drochi traed. Gallwch hyd yn oed logi cadair olwyn am ddim os oes angen. 

Neu efallai eich bod yn awyddus i weld bywyd morol hynod y Parc Cenedlaethol? Os felly, gallwch ddarganfod ein hamrywiaeth o byllau glan môr sy’n orlawn o bob math o greaduriaid rhyfeddol a hynod. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer sut i wneud y mwyaf o chwilota pyllau glan môr:

  • Os trowch y creigiau drosodd, rhowch nhw’n ôl yn yr un lle.
  • Gadewch y creaduriaid lle y cawsoch nhw – maen nhw’n llawer hapusach yn eu cartrefi eu hunain.
  • Gall creigiau a gwymon fod yn llithrig iawn – pwyll piau hi.
  • Amseroedd llanw – gwell mynd i chwilota pyllau glan môr ar lanw isel.
  • Cofiwch y gall y llanw ddod i mewn yn sydyn – ac na fydd yn eich rhwystro rhag gadael.

Sut bynnag yr ydych yn hoffi mwynhau’r dŵr, cofiwch aros yn ddiogel – drwy ddilyn canllawiau diogelwch traeth yr RNLI neu fod yn ofalus ar y clogwyni o gwmpas y Parc Cenedlaethol. Mae cyfnodau o law trwm yn effeithio ar sadrwydd y clogwyni, felly cofiwch gadw’n ddigon pell o’r creigiau neu ymyl yr arfordir.

Saundersfoot

6. Camu mewn i Gymru’r canoloesoedd wrth ymweld ag Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn

Gydag ystod o ddigwyddiadau i’r teulu ar gael dros Hanner Tymor Mis Mai, gall ymwelwyr i Gastell Caeriw glywed hanesion erchyll o orffennol Sir Benfro; mentro i’r ysgol gleddyfau; gweld gwersyll canoloesol; a hyd yn oed dysgu sut i wneud past dannedd o rysáit perlysieuol hen iawn!

Ond nid dim ond plant a charedigion hanes fydd yn mwynhau’r safle. Bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – oherwydd ei ystlumod a’i blanhigion prin – mae Castell Caeriw hefyd yn lle gwych i rai sy’n hoffi bywyd gwyllt.

Wrth i chi fynd o gwmpas y castell, cofiwch gadw llygad allan am ei amrywiaeth o fywyd gwyllt – heb sôn am yr ysbrydion sy’n byw yno….tybed welwch chi gip ar y Ladi Wen neu’r Epa Barbari?

Carew Castle

7. Beth am ymweld â’r ynysoedd?

Os oes gennych ychydig yn fwy o amser ac yn awyddus i weld mwy o’r ardal o gwmpas y Parc Cenedlaethol, yna mae digon yma – mae gan yr ynysoedd oddi ar arfordir y Gogledd i gyd eu cymeriad, bywyd gwyllt a’u rhin unigryw yn aros amdanoch. 

O’r haid enwog o Adar Pâl ar Ynys Sgomer i weld llamhidyddion yn tyrru i fwydo ar Ynys Gwales, gallwn eich sicrhau os ewch ar un o’r tripiau cychod o gwmpas yr ynysoedd, y byddwch yn creu atgofion hudolus i bara am byth.

Skomer Island

Am fwy o wybodaeth ac i gynllunio eich antur nesaf, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu drwy ddilyn @arfordirpenfro ar Facebook, X ac Instagram.   

   


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.