11.3 C
Llanelli
Friday, October 16, 2026
Home hywel dda health board Staff a chleifion yn dweud eu dweud ar ddyfodol gofal iechyd

Staff a chleifion yn dweud eu dweud ar ddyfodol gofal iechyd

0
435
821230e685500c0d org
821230e685500c0d org

Mae staff bwrdd iechyd Hywel Dda, gan gynnwys clinigwyr, yn cydweithio â chynrychiolwyr cleifion a rhanddeiliaid i ystyried cefnogaeth a newid posibl i wasanaethau sydd o dan y pwysau mwyaf.

Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n datblygu Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar gyfer naw gwasanaeth gofal iechyd sydd angen cefnogaeth – gofal critigol, llawfeddygaeth gyffredinol frys, strôc, endosgopi, radioleg, dermatoleg, offthalmoleg, orthopaedeg ac wroleg.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r bwrdd iechyd yn siarad â staff, cleifion a sefydliadau partner ac yn cynnal gwahanol fathau o weithdai i ganfod beth yw’r problemau, i drafod syniadau newydd, ac i’w profi yn erbyn mesurau a gofynion sy’n bwysig i gymunedau yn ardal Hywel Dda.

Yn ystod tymor yr Hydref 2023, gwahoddwyd cleifion a oedd wedi defnyddio’r gwasanaethau sy’n rhan o’r Cynllun yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal â staff, i lenwi arolygon i rannu eu barn am y naw gwasanaeth gofal iechyd. Mae hyn eisoes wedi galluogi’r bwrdd iechyd i ysgrifennu papur i’r Bwrdd yn disgrifio’r materion sy’n effeithio ar y gwasanaethau hyn.

Cyflwynwyd y papur materion yng nghyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ar 28 Mawrth 2024. Yna gwahoddodd Hywel Dda bobl a oedd wedi mynegi diddordeb i ymuno â grŵp dan arweiniad clinigol gyda chynrychiolaeth o blith staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid, â’r nod o ddatblygu syniadau ymhellach.

Cynhaliodd y bwrdd iechyd weithdy – digwyddiad cydgynghorol – ym mis Ebrill 2024 er mwyn i aelodau’r grŵp allu rhannu eu sgiliau a’u profiadau gwahanol ymhellach ac i drafod syniadau ynghylch hyd a lled gwasanaethau yn y dyfodol. Daeth dros 80 o bobl i’r digwyddiad.

Meddai Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro: “Fel rhan o’r Rhaglen Gwasanaethau Clinigol, rydym am sicrhau bod llais y claf yn cael ei gynrychioli. Rydym yn ffodus bod cynrychiolwyr cleifion, yn ogystal â’n staff, staff clinigol a rhanddeiliaid eraill, wedi bod yn barod i roi o’u hamser i ddarparu’r mewnbwn hwn.

“Rydym yn ymgysylltu â chynrychiolwyr cleifion o bob rhan o’r tair sir, a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gweithdai hyn yn seiliedig ar broses ddethol ar hap er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder. Mae mwy o weithdai ar y gweill rhwng nawr a’r haf.”

Meddai Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: “Bydd ein clinigwyr a’n gwasanaethau’n ystyried popeth yr ydym wedi’i glywed, ac yn gweithio i ddatblygu opsiynau gwasanaeth i’w hystyried gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024. Byddwn yn hysbysu’r cyhoedd, ein staff a rhanddeiliaid yn ogystal â’u cynnwys. Unwaith y byddwn wedi datblygu’r opsiynau, byddwn yn ymgysylltu â’n cymunedau i ddeall beth fydd effaith unrhyw newidiadau.”

Gall y cyhoedd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd iechyd ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yma: biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/cynllun-gwasanaethau-clinigol/. Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan mewn ymgysylltu yn y dyfodol neu a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ymuno â’n cynllun ymgysylltu: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/siarad-iechyd-talking-health/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.