7.7 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home hywel dda health board Galwch heibio am eich brechlyn MMR

Galwch heibio am eich brechlyn MMR

0
362
9ebcdd042d7f69f1 org
9ebcdd042d7f69f1 org

Mae’r frech goch yn salwch difrifol i blant y gellir ei atal gan frechlyn hynod effeithiol a diogel.

Yn dilyn achos datganedig o’r frech goch yng Ngwent, mae’n bwysig iawn eich bod chi a’ch teulu yn cael eich diogelu â dau ddos o’r brechlyn MMR.

Mae dros 95% yn effeithiol o ran atal y frech goch ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny â dosau yr ydych wedi’u methu

Gall unrhyw un sy’n bump oed a throsodd alw i mewn i un o’n canolfannau brechu i dderbyn eu brechlyn MMR, nid oes angen apwyntiad.

  • Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai a dydd Mercher 5 a dydd Mawrth 11 Mehefin).
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai).
  • Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9am i 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai, dydd Gwener 31 Mai a dydd Gwener 7 Mehefin).

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y frech goch yw un o’r clefydau mwyaf heintus a bydd bron pawb sy’n ei ddal yn datblygu twymyn uchel a brech. Bydd un o bob 15 o bobl yn cael cymhlethdodau difrifol, gan gynnwys haint ar yr ysgyfaint (niwmonia) neu’r ymennydd (enseffalitis)

“Mae’r gostyngiad yn y nifer sy’n manteisio ar y brechlyn MMR yn y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod gennym lawer o blant a phobl yn ein cymunedau sy’n agored i niwed a heb eu hamddiffyn rhag y frech goch, sy’n achosi salwch difrifol i lawer o bobl.

“Mae’r brechlyn MMR yn ddiogel ac yn hynod effeithiol i’ch amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Rwyf am annog rhieni a gofalwyr i feddwl am ddiogelwch eu plant a sicrhau bod ein cymunedau yma yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hamddiffyn.”

Os nad ydych yn gallu mynychu un o’n canolfannau brechu ac yr hoffech drefnu brechlyn MMR i chi neu’ch plentyn, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, ewch i icc.gig.cymru/mmr.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.