18.3 C
Llanelli
Saturday, August 29, 2026
Home hywel dda health board Llwyddiant Hywel Dda yng Ngwobrau Canser Moondance

Llwyddiant Hywel Dda yng Ngwobrau Canser Moondance

0
29
b68f5554dcc3f3de org scaled
b68f5554dcc3f3de org scaled

Mae unigolyn a thîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol ym maes gwasanaethau canser yng Ngwobrau Canser Moondance ddydd Iau diwethaf (Mehefin 13).

Nod y gwobrau – sef unig wobrau canser Cymru – yw dathlu a thynnu sylw at unigolion a thimau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi gwasanaethau canser.

Enwyd y tîm y tu ôl i’r rhaglen Gofal Gweithredol Prostad Gyda’n Gilydd (PACT) yn gyd-enillwyr gwobr Gwella Profiad y Claf am eu gwasanaeth adsefydlu a chymorth pwrpasol i bobl â chanser y prostad.

Mae’r rhaglen PACT yn cynnig cyngor wedi’i deilwra ar ymarfer corff, maeth a lles, ac yn grymuso pobl â chanser y prostad i leihau canlyniadau sgîl-effeithiau triniaeth a gwella canlyniadau iechyd tymor hwy.

Ac fe wnaeth Rachel Lewis, Arweinydd Canser Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Hywel Dda ennill y Wobr Rhagoriaeth Nyrsio adref. Cafodd ei chanmol am ei sgiliau arwain a’i dycnwch wrth sefydlu gwasanaethau adsefydlu sy’n darparu cymorth a chefnogaeth hanfodol i bobl â chanser.

The PACT team with their award. From left – Christopher Richards, Rachel Lewis, Sam Harrison-Little, Helen Harries (project lead), David Easton and Deborah Perry.
Moondance Awards,
The Depot, Cardiff
16.06.2024
WALES NEWS SERVICE

Dywedodd Rachel Lewis, sydd hefyd yn rhan o’r tîm PACT buddugol: “Mae gweld PACT yn ennill gwobr profiad y claf heno yn dyst i’w hymroddiad a’u hymrwymiad i wella mynediad at wasanaethau adsefydlu canser o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Rwy’n gobeithio bod hwn yn gam tuag at wreiddio gwasanaethau adsefydlu cyfannol yn barhaol ar draws y llwybr gofal canser. Roedd yn anhygoel cael ein cydnabod yn noson Gwobrau Moondance.”

Cafodd enillwyr eleni eu beirniadu gan banel o arbenigwyr ac arweinwyr gan gynnwys: Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru; Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a’r Athro Kamilla Hawthorne, Meddyg Teulu a Chadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Dywedodd Dr Rob Orford, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative: “Crëwyd y gwobrau i ddathlu a diolch i’r bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i wella ac arloesi llwybrau canfod, diagnosis a thriniaeth ar draws gwasanaethau canser yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gobeithio, trwy roi sylw i’r bobl hyn, y gallwn ni helpu i ysbrydoli atebion yfory ar gyfer goroesi. Rydym mor falch bod cymaint o bobl o bob rhan o ofal iechyd yng Nghymru wedi dod i ddathlu gyda ni. Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bawb gafodd eu henwebu ar draws Cymru.

“Mae’r gwobrau hyn wir yn dangos bod gwelliant yn bosibl ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru. Yn Moondance, rydym yn dod o hyd i, yn ariannu ac yn rhoi tanwydd i bobl wych sydd â syniadau dewr i wella canlyniadau canser i Gymru. Os oes gennych chi, neu eich tîm, ddiddordeb mewn trafod syniad, cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rwyf wrth fy modd i weld holl waith rhagorol cydweithwyr ar draws ein gwasanaethau canser yn Hywel Dda yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.

“Mae’n newyddion gwych bod Rachel a’r tîm ymroddedig y tu ôl i’r rhaglen Prostate Active Care Together (PACT) wedi ennill gwobrau mawreddog Moondance Cancer Awards. Llongyfarchiadau i chi gyd.

“Llongyfarchiadau hefyd i bawb a gafodd eu henwebu yn y gwobrau. Mae eich ymroddiad rhagorol, arbenigedd a thosturi yn newid bywydau cleifion yn ein gofal.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i:Moondance Cancer Awards | Moondance Cancer Initiative (moondance-cancer.wales)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.