16.5 C
Llanelli
Monday, October 12, 2026
Home Election Llafur yn “rhoi’r brêcs ar ddyheadau Cymru” – rhybuddia Plaid Cymru

Llafur yn “rhoi’r brêcs ar ddyheadau Cymru” – rhybuddia Plaid Cymru

0
626
Rhun ap iorwerth
Rhun ap iorwerth

Mae Llafur yn “rhoi’r brêcs ar ddyheadau Cymru”, bum mlynedd ar hugain ar ôl sefydlu senedd i Gymru, bydd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS yn dadlau heddiw.

Wrth siarad cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog olaf cyn Etholiad Cyffredinol y DU ddydd Iau 4 Gorffennaf, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wedi dweud “ie” i Gymru yn unol â dymuniadau pobl ers 1997.

Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn herio Llafur ar eu tueddiad i ‘wneud un peth a dweud y llall’ ar faterion fel ariannu teg, arian HS2 sy’n ddyledus i Gymru, dod â’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn i ben a datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona – ble mae unrhyw awydd gan Lafur yng Nghymru i fynd ar ol y materion hyn yn cael eu diddymu gan Bencadlys Llafur yn Llundain.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae hanes gwleidyddol Cymru ers bron i ddeng mlynedd ar hugain yn un o’n cenedl yn dweud “ie.”

“Ie” yn 1997 i gael ein senedd ein hunain ac “ie” i wneud mwy o’n penderfyniadau ein hunain yn 2011.

“Ar ôl pum mlynedd ar hugain mewn grym yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur bellach yn rhoi’r brêcs ar ddatganoli ac yn methu â chadw i fyny ag uchelgeisiau pobol.

“Beth bynnag mae Llafur yng Nghymru yn honni ei fod yn ei gredu, mae unrhyw ymdrechion i ymuno â Phlaid Cymru i ddweud “ie” i ariannu teg, symiau canlyniadol HS2, cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn a datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn disgyn ar glustiau byddar yn Llundain.

“Mae Keir Starmer wedi ei gwneud yn glir pan ddaw i Gymru, ei ateb yn rhy aml yw “na.”

“Mae cadw grym yn San Steffan yn rhywbeth rydyn ni wedi arfer ag ef gan y Torïaid, ond gyda Llafur y DU yn mabwysiadu agwedd debyg, mae’n amlwg mai dim ond ASau Plaid Cymru fydd yn rhoi llais i Gymru yn Senedd y DU.

“Mae aelodau Llafur yng Nghymru yn llygad eu lle mai’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn yw’r gyrrwr unigol mwyaf ar gyfer tlodi plant.

“Mae aelodau Llafur yn cytuno â ni y dylid trosglwyddo rheolaeth dros Ystadau’r Goron i Gymru, fel rhan o’r ymdrech i ddatgloi ein potensial economaidd.

“Pe bai dim ond Keir Starmer yn eu parchu ac yn gwrando.

“Fel y mae pethau, rydyn ni’n wynebu mwy o’r un peth – mwy o doriadau i wasanaethau cyhoeddus ond dim mwy o bwerau i newid ein cenedl er daioni.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi cael llond bol ar sut mae Llafur yn cymryd Cymru’n ganiataol i bleidleisio i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf fel yr unig blaid sydd wedi ymrwymo i roi ein cymunedau o flaen buddiannau’r pleidiau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.