Mae dathliad o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi uno cannoedd o fyfyrwyr yng Ngholeg Cambria unwaith eto.

0
339
Cambria Fest

Cafodd Gŵyl Cambria 2024 ei chynnal yng Nglannau Dyfrdwy a daeth dros 520 o ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai o safleoedd eraill y coleg yn Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain.

Dyma oedd yr ail waith i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant – gan gynnwys bwytäwr tân dewr – lluniaeth, gemau, cwrs antur, a rhagor.

Cafodd ei drefnu gan y tîm Llais Myfyrwyr, a gwnaeth y cyfranogwyr gwblhau holiadur er mwyn gweld beth oedden nhw’n ei feddwl a’i deimlo am yr ŵyl; dywedodd 85.5% eu bod nhw wedi mwynhau’r diwrnod, gwnaeth tua 64% ddweud ei bod wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl, a dywedodd 80% ei bod wedi “codi eu hysbryd” ar ôl cwblhau eu cyrsiau a’u harholiadau.

Cambria Fest

“Roedden ni wrth ein bodd i ddod â Gŵyl Cambria yn ôl yr haf yma yn dilyn llwyddiant y llynedd,” meddai Mark-Ryan Hughes, Swyddog Ymgysylltu Llais Myfyrwyr.

“Roedd yn gyfle i gael pawb at ei gilydd i ddathlu diwedd blwyddyn academaidd arall, ac i fyfyrwyr o safleoedd gwahanol y coleg i gymysgu a chyfarfod ei gilydd.

“Roedd canlyniadau ein hastudiaeth yn rhoi mewnwelediad da i ni ac yn helpu siapio ein penderfyniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”

CambriaFest

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at llaismyfyrwyr@cambria.ac.uk

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle