7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home hywel dda health board Rhannwch eich barn i lunio eich Gofal Sylfaenol a Chymunedol a Llesiant

Rhannwch eich barn i lunio eich Gofal Sylfaenol a Chymunedol a Llesiant

0
392
992a23aacaba2cff org
992a23aacaba2cff org

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl i fynychu digwyddiadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro y mis Medi hwn (2024) i ddarganfod mwy am wasanaethau gofal iechyd Sylfaenol a Chymunedol.

Mae ymarfer ymgysylltu ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ yn cynnwys digwyddiadau arddangos mewn gwahanol leoliadau ac ar-lein, gyda thudalennau gwe i roi rhagor o wybodaeth. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gofyn i bobl rannu eu profiadau ar wasanaethau gofal iechyd a syniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymarfer ymgysylltu, a gynhelir rhwng 2 Medi ac 11 Hydref 2024, yn canolbwyntio ar gynllunio’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o wasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan y GIG y tu allan i ysbytai.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys Fferyllfeydd Cymunedol, practisau Optometrig, (a elwir weithiau’n Optegwyr), gwasanaethau Deintyddol y GIG, a meddygfeydd. Mae gwasanaethau yn y gymuned yn darparu timau allgymorth, nyrsio ardal, clinigau cymunedol, gofal diwedd oes a mwy.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein gweledigaeth ar y cyd yw darparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel, cynaliadwy a hygyrch mor agos i’ch cartref â phosibl, yn unol â’n Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.

“Credwn, trwy ymgysylltu â’n Cymunedau yn uniongyrchol, y gallwn ddeall eu hanghenion a’u dewisiadau yn well, a cheisio sicrhau bod ein gwasanaethau’n diwallu’r anghenion hynny lle bynnag y bo modd.”

“Hoffem glywed sut yr ydych yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd a gofal hyn ar hyn o bryd, a’r hyn y byddai ei angen arnoch i gynnal eich llesiant. Hoffem i chi rannu eich profiadau, yr hyn sydd bwysicaf i chi, a’ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd yn eich cymuned.”

Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan.

Mynychu Digwyddiadau Iechyd a Lles
Drwy fynychu un o’r digwyddiadau, gallwch ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich cymuned a rhannu eich barn. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gweler manylion yr amseroedd, dyddiadau a lleoliadau isod neu cliciwch ar y ddolen hon i ymweld â’n gwefan am ragor o wybodaeth: https://biphdd.gig.cymru/cynllun-gofal-sylfaenol-a-chymunedol/

  • 5 Medi 2024,  2pm-6:30pm, Neuadd Bentref Bancyfelin, Bancyfelin, SA33 5ND
  • 11 Medi 2024, 2pm-6:30pm, Neuadd y Regency, Saundersfoot, SA69 9NG
  • 12 Medi 2024, 2pm-7pm, Neuadd Goffa Pontyberem, Pontyberem, SA15 5HU
  • 19 Medi 2024, 2pm-7pm, Neuadd Tysul, Llandysul, SA44 4QL
  • 24 Medi 2024, 2pm-7pm, Yr Hwb, Canolfan Gymunedol Penparcau, Aberystwyth, SY23 1RU
  • 25 Medi 2024, 10am-5pm, HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG
  • 26 Medi 2024, 2pm-7pm, Ffwrnes Fach, Hyb Celfyddydau, Iechyd a Lles, Llanelli, SA15 3YE

Ymuno â Digwyddiad Ar-lein
Gallwch hefyd ymuno â’n digwyddiadau ar-lein o gysur eich cartref eich hun:

  • 10 Medi 2024, 11am
  • 16 Medi 2024, 6pm

Cliciwch ar y ddolen hon i gwblhau ffurflen gofrestru i fynychu digwyddiad ar-lein:https://biphdd.gig.cymru/digwyddiadau-ar-lein-gofal-sylfaenol

Cwblhau Holiadur
Ewch i’n tudalennau ymgysylltu ar-lein yn https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/ i gwblhau holiaduron o 2 Medi i 11 Hydref 2024

Os na allwch fynychu digwyddiad, gallwch barhau i rannu eich barn:

  • Ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Ffoniwch 0300 303 8322 (dewiswch opsiwn 5) ar gyfer cyfathrebu uniongyrchol ar gyfraddau galwadau lleol
  • Postiwch eich adborth i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD

Dywedodd Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol – Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â’n cleifion a’n cymunedau, ein staff, a chontractwyr sy’n darparu gwasanaethau gyda ni, a phartneriaid. Drwy wrando arnoch chi ac ystyried eich barn a’ch syniadau, credwn y gallwn ddarparu Gwasanaethau sy’n diwallu anghenion ein hardal orau.

“Bydd eich barn a’ch syniadau yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn rhoi cyfleoedd pellach i chi rannu eich barn wrth i ni symud ymlaen. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ar-lein neu wyneb yn wyneb yn un o’n digwyddiadau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.