8.9 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home hywel dda health board Diweddariad ar ganolbarth a gorllewin Cymru iachach

Diweddariad ar ganolbarth a gorllewin Cymru iachach

0
391
8b49992deb19ae3d org
8b49992deb19ae3d org

Yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf ar 28 Tachwedd 2024, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod y cynnydd a’r camau nesaf sydd angen eu cymryd i gyflawni ei strategaeth a’i weledigaeth ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach.

Bydd y Bwrdd yn trafod cyflawniadau a wnaed, sy’n cynnwys cefnogi mwy o gleifion yn y gymuned, datblygu hybiau cymunedol a gwelliannau i lefelau staff nyrsio.

Bydd y Bwrdd hefyd yn ystyried heriau i’r strategaeth. Mae’r rhain yn cynnwys yr ysbyty newydd arfaethedig yn ne Hywel Dda na fydd yn weithredol am ddegawd arall o leiaf, gyda llawer o wasanaethau’n parhau i fod yn fregus, ac yn darparu gofal ar ystadau sy’n heneiddio a gyda heriau sylweddol yn y gweithlu meddygol.

Bydd diweddariad o ymgysylltu diweddar am wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei ddarparu, yn ogystal â chanfyddiadau o’r broses datblygu opsiynau ar gyfer naw gwasanaeth clinigol (Cynllun Gwasanaethau Clinigol).

Y naw gwasanaeth yw Gofal Critigol, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Strôc, Endosgopi, Radioleg, Dermatoleg, Offthalmoleg, Orthopedeg ac Wroleg. Maent yn wasanaethau sy’n fregus ac sydd angen newid a chymorth i barhau i ddarparu gofal diogel i’n poblogaethau yn y tymor canolig.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio, Lee Davies: “Byddwn yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar ein strategaeth a’r trawsnewid sydd ei angen i ymateb i fregusrwydd a gwella gofal i’r boblogaeth. Bydd y Bwrdd yn trafod ac yn cytuno ar ddatblygiad cynlluniau ar gyfer 2025-2026 a thu hwnt.”

Gall unrhyw un fynychu cyfarfodydd Bwrdd i arsylwi, gan eu bod yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, neu gallwch eu gwylio ar-lein. Bydd dolen ar gael ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2024/

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgysylltu yn y dyfodol neu a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd iechyd ar ddyfodol gwasanaethau’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ymuno â chynllun ymgysylltu Hywel Dda – Siarad Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/siarad-iechyd-talking-health/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.