9.1 C
Llanelli
Wednesday, February 11, 2026
Home hywel dda health board Ymweld â gofal yn Ysbyty Tywysog Philip

Ymweld â gofal yn Ysbyty Tywysog Philip

0
575
808d85ad6b7c08b5 org
808d85ad6b7c08b5 org

Gofynnir i ymwelwyr Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw symptomau tebyg i ffliw, neu unrhyw symptomau salwch, a gofynnir i ymwelwyr wisgo mwgwd cyn cael mynediad i wardiau.

Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal heintiau yn cael eu cymryd. Gofynnir i ymwelwyr fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw heintiau ac i olchi dwylo a gwisgo mwgwd wyneb, y gellir eu darparu ar y wardiau.

Cyfyngir ymhellach ar ymweliadau â’r Uned Asesu Meddygol Acíwt a hynny drwy drefniant gyda phrif nyrs y ward yn unig.

Bydd ceisiadau penodol i ymweld yn cael eu hystyried yn unigol. Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu’n ddyddiol, a bydd cyfyngiadau’n cael eu codi cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Meinir Williams, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Tywysog Philip: “Yn y wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo mygydau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad.

“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydych yn teimlo’n sâl.

“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia a all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.”

Bydd canolfannau brechu ar agor, nid oes angen apwyntiad ar 27, 30 a 31 Rhagfyr ar gyfer pawb sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw a COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant 2 oed (ar 31 Awst 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11 sy’n gallu cael gafael ar y brechlyn ffliw trwynol yn y canolfannau.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 09.15am a 5.30pm i’ch canolfan frechu agosaf:

  • Aberaeron (Canolfan Gofal Integredig Aberaeron, Aberaeron SA46 0DY)
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW)
  • Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE)

Mae’r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:

Brechiad Ffliw

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6
  • Plant mewn ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11
  • Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)
  • Merched beichiog
  • Gofalwyr 16 oed a throsodd
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl ag anabledd dysgu
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob aelod o staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid
  • Gweithwyr dofednod mewn risg uchel

Brechiad COVID-19

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)
  • Gofalwyr di-dâl
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael mynediad at y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu e-bostiwch: ask.hdd@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.