15.5 C
Llanelli
Sunday, August 16, 2026
Home Newyddion Lle Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi

Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi

0
366
JS landscape APPROVED
JS landscape APPROVED

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau’r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.

Mae’r cyllid newydd, sydd wedi’i gynnwys yng Nghyllideb Derfynol 2025-26 – ar ben y cynnydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft – yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i’r sector ar gyllideb refeniw y llynedd.

Mae hefyd yn ychwanegol at £73.8m a ddyrannwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod asedau diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan wella profiadau a mynediad ymwelwyr. Mae hyn yn gynnydd o £18.4m ar lefelau 2024-25.

Meddai Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Mae’r buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru.

“Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sy’n wynebu llawer o’n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol ac mae’r gyllideb hon yn gam sylweddol ymlaen o’r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd, ac yn gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol.

“Diolch i awydd gwirioneddol o bob rhan o Gabinet Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ein gallu, rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd y cam arwyddocaol hwn i ddarparu cefnogaeth i’n cyrff celfyddydol, cyhoeddi a diwylliannol, sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint.

“Mae ein gwariant cyfalaf i helpu i ddiogelu ac amddiffyn asedau diwylliannol a threftadaeth Cymru yn y dyfodol bellach dros dair gwaith yr hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi prosiectau fel ailddatblygu Castell Caerffili, a gwaith ailwampio helaeth yn Theatr Clwyd ac Amgueddfa Wrecsam.

“Bydd y pecyn ariannu cynhwysfawr hwn yn helpu i ddiogelu a gwarchod diwylliant, celfyddydau, byd cyhoeddi a chwaraeon llawr gwlad Cymru, gan gefnogi eu rôl hanfodol mewn addysg, ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth.”

Mae’r ymrwymiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar y £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn a ddarparwyd i’r sector ar ddiwedd 2024-25, a gefnogodd 60 o sefydliadau diwylliannol ledled Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â’r £5m o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Medi.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.