21.5 C
Llanelli
Tuesday, July 28, 2026
Home Newyddion Lle Llafur yn methu ar bob agwedd i ddadwneud methiannau Betsi

Llafur yn methu ar bob agwedd i ddadwneud methiannau Betsi

0
449
Mabon ap Gwynfor AS
Mabon ap Gwynfor AS

Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hadroddiad blaenoriaethau mesurau arbennig a oedd yn amlinellu “disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau dros y 6 mis nesaf” ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ymgais i leihau arosiadau o 52 wythnos i gleifion allanol cymal cyntaf o fis i fis, gwella arosiadau trosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a sicrhau bydd mwy o gleifion yn cael eu gweld o fewn targedau cenedlaethol amseroedd aros 4 a 12 awr mewn adrannau brys.

Er i Lywodraeth Cymru nodi’r mesurau hyn fel blaenoriaethau, mae’r data diweddaraf gan BIPBC yn dangos bod ffigyrau pob un o’r mesurau hyn yn mynd y ffordd anghywir yn ôl Mabon ap Gwynfor.

Mae’r data diweddaraf gan y Bwrdd Iechyd yn dangos:

  • Cododd y nifer o arosiadau dros 52 wythnos o 2,321.
  • Cynyddodd nifer yr oriau a gollwyd oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys oddeutu 2,000.
  • Gwelwyd llai o gleifion o fewn y targedau cenedlaethol 4 a 12 awr mewn adrannau brys, o’i gymharu â dechrau’r cyfnod chwe mis yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.