18.4 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Newyddion Lle SIONED WILLIAMS YN SICRHAU ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD BANC PONTARDAWE

SIONED WILLIAMS YN SICRHAU ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD BANC PONTARDAWE

0
381
sioned williams pontardawe lloyds bank
sioned williams pontardawe lloyds bank

LINK yn cytuno i ailedrych ar yr adolygiad yn dilyn apêl gan Aelod o’r Senedd

Mae Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi sicrhau cytundeb gan LINK i ailedrych ar eu hadolygiad asesiad arian parod, yn sgil tystiolaeth newydd a ddarparwyd gan Ms Williams.

Cwblhaodd LINK asesiad Mynediad Arian Parod ar gyfer Pontardawe ym mis Ionawr, yn dilyn cyhoeddiad Banc Lloyds y byddai’n cau’r gangen yn y dref cyn diwedd y flwyddyn – gan adael Cwm Tawe cyfan heb fanc.

Yng ngoleuni tystiolaeth a gyflwynwyd gan Sioned Williams AS, yn ymwneud â daearyddiaeth yr ardal leol, ffeithiau am drafnidiaeth gyhoeddus yn y cwm, adborth gan drigolion a busnesau yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Ms Williams, a phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Mencap Cymru am effaith cau banciau ar grwpiau penodol o bobl, mae LINK wedi cytuno i ailedrych ar eu hadolygiad cychwynnol.

Mae disgwyl i’r ail-asesiad gymryd 12 wythnos i’w gwblhau.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Rwy’n falch bod LINK wedi cytuno i ailedrych ar eu hadolygiad o asesiad mynediad arian parod ym Mhontardawe, oherwydd bydd y cynllun i gau Banc Lloyds yn y dref yn drychinebus i drigolion a busnesau fel ei gilydd.

“Dyw hi ddim mor hawdd dweud y dylai pobl jest ymweld â changen arall. Oes mae yna fanciau yng Nghastell-nedd sydd dim ond 4.4 milltir i ffwrdd o Bontardawe-  yn ôl asesiad LINK – ond bydd unrhyw un sy’n adnabod yr ardal yn sylweddoli’n gyflym mai dyma’r pellter dim ond os byddwch chi’n tynnu llinell syth rhwng y ddwy dref. Os byddwch yn teithio yno ar hyd y ffordd, mae’n llawer pellach a bydd cau Lloyds ym Mhontardawe yn effeithio ar Gwm Tawe i gyd, gyda miloedd o drigolion yn byw hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o Gastell-nedd.

“Ers y penderfyniad i gau’r banc, rydw i wedi bod yn brysur yn cyfarfod â thrigolion a pherchnogion busnesau lleol i ddarganfod sut bydd cau’r banc yn effeithio arnyn nhw. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â sefydliadau fel Age Cymru, Mencap Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddeall yr effaith bosibl ar y bobl y maent yn eu cynrychioli.

“Pan ysgrifennais at LINK i apelio yn erbyn eu hasesiad, roeddwn yn gallu defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth gan bawb rydw i wedi cyfarfod â nhw i fanylu ar y pryderon ynghylch trafnidiaeth, gallu cyfleusterau arian parod amgen i fodloni’r galw, a’r effaith ar rai o’n dinasyddion mwyaf bregus, y mae nifer ohonynt yn methu â defnyddio bancio ar-lein.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.