Pwyso’r Prif Weinidog am ei barn ar doriadau PIP

2
778
Cefin Campbell MS

Cafodd Prif Weinidog Cymru ei phwyso unwaith eto i ddatgan ei barn ar doriadau i daliadau annibyniaeth personol (PIPs), wrth iddi glywed hanes menyw o Lanelli oedd yn pryderu dros golli ei thŷ o ganlyniad i’r polisi ac un arall a oedd yn poeni am dorri yn ôl ar fwyd.

 

Pan gafodd ei holi gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, 1 Ebrill), gwrthododd Eluned Morgan ddatgan barn unwaith eto.

 

Ddydd Gwener ddiwethaf (28 Mawrth), yn ystod sesiwn Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, nid oedd hi’n fodlon datgan barn ar y mater chwaith. Daeth hyn yn groes i’r hyn ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens yn ddiweddar, sef bod Eluned Morgan wedi croesawu’r polisi.

 

Yn siarad yn y Siambr heddiw, dywedodd Cefin Campbell AS:

 

“Bues i mewn digwyddiad People Speak Up ar gyfer pobl dros 50 oed yn Llanelli rai wythnosau yn ôl, ac yno ges i sgwrs gyda rhai trigolion lleol, gan gynnwys un fenyw oedd yn poeni am golli ei thaliadau PIP. Brif Weinidog, roedd hi’n pryderu y byddai’n colli ei thŷ o ganlyniad i’r newid polisi.

 

“Roedd un arall yn sôn am dorri nôl ar fwyd os byddai hi’n colli ei thaliadau PIP – dyma ddifrifoldeb y sefyllfa sy’n wynebu pobl yn ein cymunedau.

 

“Cawsoch eich ethol, fel fi, gan bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru i’w cynrychioli a siarad ar eu rhan.

 

“A gaf i ofyn felly ai dyma’r math o bolisi roeddech chi’n ei ddisgwyl gan lywodraeth Lafur yn San Steffan – polisi sy’n mynd i daro’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas a gwthio miloedd yn fwy o bobl i dlodi? Ai dyma beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘bartneriaeth mewn grym’?”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

2 COMMENTS

  1. It’s deeply concerning to see continued pressure on PIP recipients,especially when many are already navigating serious health and financial challenges. The public deserves clarity from the Prime Minister on how these decisions align with supporting the most vulnerable. Hopefully this increased scrutiny leads to more transparency and fairness in the process.

  2. fantazstic publish,very informative. I’m wondering wwhy tthe opposiote specialists of this sector don’t understand
    this. Youu should continue your writing. I’m confident,you’ve a huge readers’
    bbase already!

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here