Plaid Cymru yn datgelu cynllun i “anadlu bywyd newydd” i economi Cymru

0
611
Luke Fletcher MS

Gwneud i Gymru Weithio: Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru yn “uchelgais economaidd, gwrthbwynt i ddirywiad Llafur” – Luke Fletcher AS

Bydd cynllun economaidd newydd Plaid Cymru yn “anadlu bywyd newydd” i economi Cymru ar ôl degawdau o farweidd-dra Llafur, meddai llefarydd economi’r blaid, Luke Fletcher.

Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi Gwneud i Gymru Weithio: Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru ddydd Llun 28 Ebrill 2025 yn Coaltown Coffee, Rhydaman.

Mae’r cynllun yn sail i weledigaeth y blaid ar gyfer “adeiladu economi gryfach, decach” i Gymru os ydyn nhw’n cael eu hethol i lywodraeth yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher, y byddai’r cynllun yn gweld “cyfoeth yn cael ei adeiladu, ei gadw a’i ailgylchu yn ein cymunedau yn lle iddo ollwng, ac mewn rhai achosion llifo, allan o Gymru”.

Ychwanegodd Mr Fletcher y byddai’r cynllun yn “tyfu a chynnal busnesau Cymreig”, yn creu “swyddi da”, yn adfywio canol trefi ac yn hybu safonau byw.

Mae’r cynllun, a gaiff ei gyhoeddi yn llawn ddydd Llun, yn cynnwys addewidion i sicrhau:

  1. Gwell cymorth i fusnesau Cymru, gan eu helpu i dyfu, a chadw cwmnïau llwyddiannus yma yng Nghymru.
  1. Annibyniaeth ynni – rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol fel bod ein cymunedau yn elwa o ynni adnewyddadwy.
  1. Strategaeth sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol, fel bod gan bawb y sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen.
  1. Agwedd newydd, strategol at arloesi wedi’i hategu gan fargen newydd i’n prifysgolion.
  1. Cadw cyfoeth yn ein cymunedau ac ar eu cyfer, drwy gefnogi busnesau sy’n eiddo i’r gymuned, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher,

“Ar ôl 26 mlynedd o Lafur mewn grym, mae cyflogau’n rhy isel, biliau’n rhy uchel, a gormod o fusnesau da yn cau eu drysau. Nid oes gan Lafur gynllun na gweledigaeth glir i wneud i Gymru ffynnu.

“Mae Gwneud i Gymru Weithio:Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru yn rhoi bywyd newydd i economi Cymru, gan wrthdroi degawdau o fethiant o dan y Blaid Lafur.

“Byddwn yn gweld cyfoeth yn cael ei adeiladu, ei gadw a’i ailgylchu yn ein cymunedau yn lle iddo ollwng, ac mewn rhai achosion yn gorlifo, allan o Gymru. Bydd yn tyfu ac yn cynnal busnesau sy’n eiddo i Gymru, yn creu swyddi da, yn adfywio ein canolfannau ein hunain ac yn hybu safonau byw.

“Ein gweledigaeth yw Cymru lle nad oes yr un plentyn yn tyfu i fyny’n dlawd, lle mae gan bob person ifanc fynediad at waith, addysg neu hyfforddiant boddhaus, a lle mae’r economi’n gweithio i’n pobl a’n cymunedau, nid y ffordd arall.

Ychwanegodd Mr Fletcher,

“Gyda llywodraeth Plaid Cymru, bydd gan fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru lywodraeth ar eu hochr o’r diwedd. Byddwn yn creu Awdurdod Datblygu Cymru newydd i wneud Cymru yn lle gwych i ddechrau a thyfu busnes.

“Byddwn yn brwydro am reolaeth dros ein hadnoddau ein hunain, fel Ystâd y Goron, yn buddsoddi mewn sgiliau, ac yn defnyddio pob grym sydd gennym – ac yn gwthio am fwy – i adeiladu economi ffyniannus sy’n gweithio i Gymru gyfan.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw hyn cystal ag y gall pethau fod i Gymru. Mae Gwneud Cymru i Weithio yn darparu glasbrint ar gyfer ymagwedd decach, fwy uchelgeisiol ar economi Cymru.

“Mae Llafur wedi gadael Cymru i lawr, ac nid oes gan bleidiau eraill unrhyw atebion. Mae gan Blaid Cymru yr egni, yr uchelgais, a’r syniadau i roi’r cychwyn newydd sydd ei angen ar Gymru – ac rydym yn barod i ddechrau ar y gwaith o’i gyflwyno nawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here