15.3 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Business Business News Cwmni bwyd a diod o Gymru yn elwa o fuddsoddi yn ei...

Cwmni bwyd a diod o Gymru yn elwa o fuddsoddi yn ei weithlu

0
2694
Ieuan with bara brith sausage

Mae ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod gan weithlu bwyd a diod Cymru y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant eisoes yn dangos canlyniadau pendant.

Mae Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu busnesau bwyd a diod ledled Cymru i fuddsoddi yn eu pobl ac adeiladu diwydiant gwydn sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi’u targedu, mae’r rhaglen yn helpu i arfogi gweithwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn tirwedd sy’n esblygu’n gyflym – gan ymdrin â meysydd fel arloesedd, cynaliadwyedd, arweinyddiaeth a thrawsnewid digidol.

Mae’r rhaglen yn gonglfaen i weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i gefnogi twf a chystadleurwydd y diwydiant bwyd a diod. Ei nod yw creu gweithlu hyderus, ystwyth a medrus iawn a all ymateb i heriau sy’n dod i’r amlwg a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru: “Mae’n galonogol gweld brwdfrydedd busnesau ledled Cymru sy’n cofleidio uwchsgilio fel blaenoriaeth strategol.

“Ein cenhadaeth yw cefnogi busnesau bwyd a diod—yn enwedig yn y sectorau prosesu a gweithgynhyrchu—drwy sicrhau bod gan eu gweithwyr fynediad at yr hyfforddiant a’r datblygiad cywir. Nid meithrin sgiliau yn unig rydyn ni, rydyn ni hefyd yn meithrin hyder, addasrwydd a diwylliant o ddysgu parhaus. Mae hyn yn ymwneud â grymuso unigolion a chryfhau’r diwydiant cyfan.”

Un o’r busnesau sy’n elwa o fuddsoddi yn ei weithlu yw Edwards, Y Cigydd Cymreig, cwmni arobryn o Gonwy, gogledd Cymru. Mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn y 1980au gan Ieuan Edwards, wedi tyfu o fusnes bach lleol i frand sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol sy’n adnabyddus am ei gynhyrchion cig a deli o ansawdd uchel.

Dywedodd Ieuan Edwards, Meistr Cig a Chyfarwyddwr, Edwards, Y Cigydd Cymreig: “Pan ddechreuais y busnes gyntaf, siop gigydd fach leol oedden ni. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi tyfu i fod yn frand sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac mae hynny wedi dod â digon o heriau a chyfleoedd cyffrous.

“Mewn busnes fel ein un ni, mae pob diwrnod yn wahanol. Mae ein timau’n gwisgo llawer o hetiau, ac mae hynny’n golygu eich bod chi’n dysgu’n gyson – boed hynny mewn cynhyrchu, marchnata, neu ymgysylltu â chwsmeriaid. Rydw i bob amser wedi credu bod profiad ymarferol yr un mor werthfawr â chymwysterau ffurfiol.

“Mae potensial enfawr yn niwydiant bwyd a diod Cymru, yn enwedig i bobl sy’n chwilfrydig, yn hyblyg, ac yn awyddus i dyfu. Mae rhaglenni fel Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn hanfodol oherwydd eu bod yn rhoi’r adnoddau a’r hyder i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd, waeth ble maen nhw’n dechrau. Mae’n ymwneud ag agor drysau a dangos bod dyfodol yma i unrhyw un sy’n barod i ddysgu.”

Mae Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru hefyd yn cynnig Hysbysfwrdd Swyddi pwrpasol i gysylltu pobl sy’n chwilio am waith â chyfleoedd yn y sector: fooddrinkjobs.wales

Am ragor o wybodaeth am Raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ewch i:https://rhaglenni.mentera.cymru/foodanddrinkskillswales 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here