8.7 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Mae rhoddion elusennol yn ariannu peiriannau oeri croen y pen gwerth dros...

Mae rhoddion elusennol yn ariannu peiriannau oeri croen y pen gwerth dros £113,000 ar gyfer gwasanaethau canser Hywel Dda

0
628
Scalp cooler

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi prynu chwe pheiriant oeri croen y pen newydd a gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant pum mlynedd gysylltiedig gwerth dros £113,000. Mae’r peiriannau newydd i’w defnyddio yn yr Unedau Dydd Cemotherapi yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Mae oeri croen y pen yn cynnig cyfle i gleifion canser leihau’r golled gwallt a brofir yn ystod cemotherapi. Mae’r driniaeth yn gweithio trwy leihau tymheredd croen y pen ychydig raddau yn union cyn, yn ystod ac ar ôl cael cemotherapi. Mae hyn yn lleihau’r llif gwaed i ffoliglau gwallt, a all atal neu leihau colli gwallt.

Mari Grug



Nid yw dyfeisiau oeri croen y pen yn cael eu hystyried yn driniaeth brif ffrwd ac felly mae’r offer a ariennir gan elusen yn darparu gwasanaeth ychwanegol i gleifion yn ardal Hywel Dda sydd y tu hwnt i’r hyn a ddarperir gan y GIG

Dywedodd cyflwynydd S4C, Mari Grug (yn y llun), sydd wedi bod yn derbyn gofal a thriniaeth am ganser: “Mae gan ganser ffordd o dynnu popeth oddi arnoch chi, ond diolch i beiriant oeri croen y pen mae fy ngwallt yn rhywbeth sydd wedi aros, wel y rhan fwyaf ohono beth bynnag.

“Rwyf wedi bod yn defnyddio peiriant oeri croen y pen ers 2023 ac ar y dechrau collais lawer o wallt. Ond mae’r peiriant a ddiweddarwyd yn ddiweddar wedi bod yn fwy effeithlon ac effeithiol ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu ei ddefnyddio gyda fy nhriniaeth.”

Dywedodd Bry Phillips, Uwch Reolwr Nyrsio – Oncoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion caredig wedi ariannu’r offer oeri croen y pen newydd ar gyfer pedwar ysbyty acíwt Hywel Dda.

“Gall y posibilrwydd o golli gwallt achosi cryn bryder. Gall y cyfle i gadw gwallt yn ystod triniaeth roi cyfle i bobl gynnal ymdeimlad o breifatrwydd a theimlo’n debycach i’w hunan ar adeg anodd iawn.

“Ein nod yw ychwanegu gwerth at wasanaethau lleol y GIG trwy ddefnyddio ein rhoddion elusennol i helpu i wella profiad y rhai sy’n cael triniaeth a all fod yn llafurus.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i haelioni anhygoel ein cymunedau lleol, rydym yn gallu gwella gwasanaethau’r GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mewn ffyrdd na fyddai’n bosibl fel arall. Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am bob un a gawn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.