Plaid Cymru yn addo “cynnig gofal plant trawsnewidiol i Gymru” 

0
634
Rhun ap Iorwerth MS
Rhun ap Iorwerth MS

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn datgelu cynnig gofal plant cyffredinol newydd gwerth mwy na £30,000 mewn costau gofal plant

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno cynnig gofal plant newydd trawsnewidiol a holl gynhwysol (universal) i blant o 9 mis oed i 4 oed – gwerth mwy na £30,000 mewn costau gofal plant yn ystod pedair blynedd gyntaf bywyd plentyn, meddai Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Wrth annerch Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn Abertawe, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai dyma’r cynnig “gofal plant mwyaf hael erioed yng Nghymru”.

Bydd y cynnig newydd yn cynyddu i 20 awr yr wythnos i bob plentyn rhwng 9 mis oed a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn; tra hefyd yn anrhydeddu’r cynnig 30 awr presennol i’r plant hynny 3 a 4 oed y mae eu rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Ar ôl ei gyflwyno’n llawn, y cynnig cyffredinol hwn fydd y rhaglen gofal plant fwyaf hael a ariennir gan y llywodraeth yn unrhyw le yn y DU.

Wrth siarad yn ystod ei araith gynhadledd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth,

“Mae ein cenhadaeth yn glir. Yr un cymuned wedi’i gadael ar ôl na’r un unigolyn, teulu na phlentyn yn cael eu cau allan o fywyd da.

“Dyna pam heddiw, rwy’n cyhoeddi y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen gofal plant gyffredinol newydd drawsnewidiol am ddim, sydd ar gael i bob plentyn o 9 mis oed i 4 oed, gan adeiladu tuag at ddarparu o leiaf 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn.

“Dyma’r cynnig gofal plant mwyaf hael erioed yng Nghymru, gwerth mwy na £30,000 i deuluoedd ym mhedair blynedd gyntaf bywyd eu mab neu eu merch – rhywbeth fydd yn gweld aml-genhedlaeth.

“I blant, y cyfle i gymdeithasu, i ddysgu sgiliau newydd a’u rhoi ar y llwybr cywir i ffynnu mewn addysg gynradd. I rieni, y rhyddid i ddychwelyd i’r gwaith heb orfod gwneud y cyfrifiad poenus o ran a allant fforddio hynny.

“Ac i neiniau a theidiau, sydd mor aml yn gofalu am eu plant, plant eu plant a’u rhieni sy’n heneiddio eu hunain, y tawelwch meddwl bod eu llywodraeth ar eu hochr nhw ac ar ochr eu teulu.

“Yn wahanol i gynnig y Llywodraeth Lafur yn Lloegr, bydd cynnig Plaid Cymru yn gyffredinol (universal), gan ddileu’r rhagolygon y bydd y bwlch rhwng hawliau plant dan anfantais a’r rhai sydd â rhieni sy’n gweithio yn ehangach nag erioed, fel y mae elusennau wedi rhybuddio’n ddiweddar.

“Llaw gymorth gyda’r pethau sydd bwysicaf.

“Dyna beth fydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ei olygu i chi a’ch teulu.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar, Sioned Williams AS,

“Mae buddsoddi mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yn darparu un o’r enillion cryfaf o unrhyw fuddsoddiad cyhoeddus. Yn y tymor canolig i’r tymor hir, mae’n fwy na thalu amdano’i hun, gyda thystiolaeth fyd-eang yn dangos enillion ar fuddsoddiad o tua 13% – drwy ganlyniadau gwell i blant, cyfraddau cyflogaeth uwch i rieni, ac economi gryfach ac iachach.”

“Costau gofal plant cyfredol yng Nghymru yw’r uchaf yn unrhyw le yn y DU, gyda llawer o deuluoedd yn gwario mwy ar ofal plant nag ar dai. Mae hyn yn rhwystro llawer o deuluoedd rhag cael mynediad at ofal plant o gwbl.

“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd ymhellach ac yn gyflymach ar ymestyn mynediad at ofal plant – i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, mynd i’r afael â thlodi plant a darparu’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here