Lansio ymgyrch Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad Senedd 2026 

0
538
DSC00683

Fe lansiodd Plaid Cymru eu hymgyrch yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad Senedd 2026 heno (dydd Llun, 3 Tachwedd), gan ddweud mai nhw yw’r “unig blaid sy’n fodlon brwydro dros beth sydd orau i Gymru a Sir Gaerfyrddin.”

Daw’r lansiad ychydig dros wythnos ers eu buddugoliaeth syfrdanol yn is-etholiad Caerffili, lle trechodd Plaid Cymru y Blaid Lafur a Reform UK gan ennill dros 47% o’r bleidlais.

Bu’r noson, a gymerodd le yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin, yng nghwmni Arweinydd cenedlaethol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn ogystal â’u pedwar prif ymgeisydd yn Sir Gaerfyrddin, sef Cefin Campbell AS, Nerys Evans, Adam Price AS a Mari Arthur. Mae’r pleidiau eraill eto i ddewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholaeth.

Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru, fydd yn cymryd lle ar 7 Mai 2026, yn defnyddio system bleidleisio gyfrannol, gydag etholaeth Sir Gaerfyrddin – sydd wedi’i greu o seddau Caerfyrddin a Llanelli yn etholiadau San Steffan – yn ethol cyfanswm o chwe Aelod o’r Senedd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys yma yn Sir Gaerfyrddin, wedi colli ffydd yng ngallu Llafur i wneud gwahaniaeth i’w bywydau bob dydd, sy’n gyfrifol am restrau aros hir yn y gwasanaeth iechyd a safonau addysg sy’n dirywio. Mae angen llywodraeth sy’n ddifrifol ynglŷn â mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig iddynt hwy, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae amser Llafur ar ben, ac nid oes gan y Blaid Reform unrhyw ddiddordeb mewn cynnig yr atebion hynny.

“Mae’n glir mai dim ond Plaid Cymru all gynnig yr arweinyddiaeth newydd sydd ei hangen ar Gymru. Dyna pam mae mwy a mwy o bobl yn troi atom ni a’n haddewid o lywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn fwy radical, yn fwy uchelgeisiol, a fwy ar dân i sicrhau newid cadarnhaol nag unrhyw lywodraeth blaenorol.”

Dywedodd Nerys Evans, sy’n ail ar restr Plaid Cymru o ymgeiswyr yn yr etholaeth:

“Wrth i ni ddechrau’r ymgyrch etholiadol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn dod ar draws cymaint o bobl ar y stepen drws sy’n gweld Plaid Cymru fel yr unig blaid sy’n fodlon brwydro dros beth sydd orau i Gymru a Sir Gaerfyrddin, gyda llawer ohonynt yn gyn-bleidleiswyr Llafur.

“Mae’r arolygon barn, yn ogystal a’r is-etholiad hanesyddol yng Nghaerffili, yn dangos yn glir hefyd mai brwydr uniongyrchol rhwng ni a Reform fydd hi dros y misoedd nesaf. Rydym yn ffyddiog y bydd ein neges gobeithiol ni yn trechu fis Mai nesaf.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here