12.3 C
Llanelli
Tuesday, April 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Croesawu Gweledigaeth y Cadeirydd Newydd

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Croesawu Gweledigaeth y Cadeirydd Newydd

0
22
7997507b 5d02 3f62 5382 c2db0c458d94

Mae Gaynor Coley – un o gyfarwyddwyr sylfaenol yr Eden Project a chyn Gyfarwyddwr Rhaglenni  Cyhoeddus  yng Ngerddi Botaneg Brenhinol Kew – yn cymryd y llyw ar adeg hanfodol  i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. 

Mae’n bleser gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC) gyhoeddi penodiad Gaynor Coley yn Gadeirydd newydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae Gaynor yn olynu Gary Davies, a fu’n llenwi’r swydd yn anrhydeddus iawn am 8 mlynedd. Mae Gaynor yn arweinydd profiadol tu hwnt gyda dros 30 mlynedd o brofiad sy’n cwmpasu cyllid, llywodraethiant a rheoli atyniadau cyhoeddus pwysig a sefydliadau diwylliannol. 

“Rwyf wrth fy modd fod Gaynor Coley wedi ei phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae gan Gaynor brofiad helaeth mewn gerddi botaneg a llywodraethiant, ac mae ganddi weledigaeth eithriadol ac arbenigedd mewn mentergarwch a gweithredu dulliau cynaliadwy. Mae ei phenodiad yn gyfle sylweddol i’r Ardd.”

— Dr Lucy A. Sutherland, Cyfarwyddwr 

Gardd Fotaneg Genedlaethol  Cymru

Hwyrach fod Gaynor yn fwy adnabyddus fel un o Gyfarwyddwyr Sylfaenol yr Eden Project yng Nghernyw, lle ymunodd ym 1977 fel Cyfarwyddwr Cyllid. Yn y swydd honno roedd yn rhannol gyfrifol am sicrhau’r £140 miliwn angenrheidiol i drawsnewid hen waith clai segur yn un o atyniadau enwocaf y byd i ymwelwyr. Prin 3 blynedd yn ddiweddarach cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Rheoli, ac yn ystod ei 15 mlynedd wrth y llyw enillodd y tîm nifer o wobrau, gan gynnwys Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn  yn y DG lawer gwaith. 

“Mae gan Gaynor Coley gyfoeth o brofiad yn arwain y sector ac ymrwymiad i addysg, garddwriaeth, creu lleoedd a phrofiad ymwelwyr. Bu’n gyfrifol am sicrhau gwaith trawsnewidiol mewn dau sefydliad eiconig – yr Eden Project a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew. Bydd Gaynor yn gaffaeliad anferth i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gary Davies am ei arweinyddiaeth ysbrydoledig a’i ymrwymiad cadarn i’r Ardd am wyth mlynedd.”

— Tim Jones, Cadeirydd Dros Dro, 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Bu Gaynor wedyn yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Cyhoeddus yng Ngerddi Botaneg Brenhinol lle bu’n arwain gwaith i adnewyddu’r brand yn llwyr, sefydlu’r ŵyl Goleuadau’r Gaeaf sydd nawr mor eiconig, a bu hefyd yn goruchwylio’r  twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr. Yn fwy diweddar mae wedi  cadeirio The Wave Group Ltd gan arwain ei atyniad arloesol mewn dŵr mewnol drwy ei waith adeiladu cyfalaf, heriau pandemig Covid-19, a’i agoriad yn llwyddiannus i’r cyhoedd.

Fel cyfrifydd siartredig wedi ei hyfforddi gyda Deloitte a KPMG, mae Gaynor yn ychwanegu cyfuniad o drylwyredd ariannol a gweledigaeth greadigol at ei swyddi ar y bwrdd. Caiff ei chydnabod yn Rhestr Grym Arweinyddiaeth Merched  2024 gan Management Today fel un o’r gweithredwyr merched mwyaf effeithiol yn y DG. Mae Gaynor yn llefarydd ymroddedig dros fwy o gynrychiolaeth gan ferched ar lefel bwrdd, a swyddogaeth cynaliadwyedd, treftadaeth natur a mynediad i  addysg  mewn cymdeithas. 

 Mae ei phenodi’n Gadeirydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dod â phrofiad eithriadol o sefydliadau botanegol ac amgylcheddol, llywodraethiant prosiectau cymhleth, ac ymgysylltu cyhoeddus i’r Ardd ar adeg hanfodol yn ei datblygiad. 

“Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyrchfan gwirioneddol arbennig – lle perffaith i’r teulu ar ddiwrnod allan gyda’i gerddi gwych a helaeth a’i gwarchodfa natur gyfleus. Mae’n dangos arbenigedd mewn gwyddoniaeth, addysg a garddwriaeth, ac yn rhan hanfodol wrth helpu Cymru i barhau ar flaen y gad wrth gysylltu pobl â phwysigrwydd natur yn ein bywydau bob dydd. Rwyf wrth fy modd yn cael fy mhenodi’n Gadeirydd y Bwrdd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm wrth inni gychwyn ar y bennod gyffrous nesaf.”  –

–  Gaynor Coley, 

darpar Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleAppeal Against Pub Conversion Refusal Dismissed
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here