10.8 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Newyddion Lle Byddai ‘chwyldro ynni adnewyddadwy’ Plaid Cymru yn grymuso cymunedau Cymru

Byddai ‘chwyldro ynni adnewyddadwy’ Plaid Cymru yn grymuso cymunedau Cymru

0
161
Nerys

Byddai Plaid Cymru yn sicrhau bod cymunedau’n elwa o adnoddau naturiol Cymru ar y llwybr tuag at annibyniaeth ynni

Byddai cynlluniau Plaid Cymru i sicrhau mwy o ddiogelwch ynni a chyrraedd sero net erbyn 2040 yn sicrhau bod cymunedau’n elwa o’u hadnoddau naturiol, meddai’r blaid.

Ar ymweliad ag elusen ynni cymunedol Awel Aman Tawe ddoe (dydd Mercher, 15 Ebrill), pwysleisiodd ymgeiswyr Plaid Cymru Nerys Evans a Sioned Williams gefnogaeth bendant eu plaid i ynni adnewyddadwy a’u huchelgais i weld mwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei greu yng Nghymru er budd cymunedau Cymru.

Roedd maniffesto Plaid Cymru, a ryddhawyd wythnos diwethaf (dydd Iau 9 Ebrill), yn amlinellu eu cynlluniau i ryddhau potensial ynni adnewyddadwy Cymru.

Mae gweithredu ar ynni adnewyddadwy wedi stopio o dan Lafur gyda ffynonellau o fewn y diwydiant yn ei ddisgrifio fel “deng mlynedd o weithgarwch datblygu lleiaf posib yn y sector”.

Dywedodd yr ymgeiswyr fod cymunedau Cymru wedi cael eu ‘gadael i lawr’ gan wrthodiad Llafur i ddatganoli Ystâd y Goron ar ôl i fwyafrif o ASau Llafur Cymru bleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru i drosglwyddo’r pwerau dros adnoddau naturiol Cymru.

Mae maniffesto Plaid Cymru yn amlinellu’r camau y byddent yn eu cymryd i sicrhau annibyniaeth ynni, gan gynnwys:

  • Datblygu Strategaeth Ynni Cenedlaethol, sy’n mapio anghenion ynni presennol a dyfodol Cymru ac yn nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i’w cyrraedd.
  • Creu Bargen Sector Ynni Adnewyddadwy newydd fydd yn cydlynu gweithredu rhwng y llywodraeth, y diwydiant ynni adnewyddadwy, addysg bellach ac uwch, cymunedau, ac undebau llafur, wrth ddarparu gofynion cynllunio cliriach ac amserlenni cydsynio cadarn, rhagweladwy ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Creu un cwmni ynni cenedlaethol cryfach gyda mwy o ddylanwad, mwy o allu i dyfu perchnogaeth gymunedol o ynni adnewyddadwy, a chylch gwaith clir i helpu i leihau biliau ynni dros y tymor canolig i’r tymor hir.
  • Creu Cronfa Cyfoeth Cymru, gan gasglu cyfran deg o’r elw o ynni adnewyddadwy Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau a arweinir gan y gymuned mewn meysydd fel tai ac ynni.

Beirniadodd Williams ac Evans safiad Reform UK ar newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, gan eu cyhuddo o gynllunio i fynd â’n planed yn ôl.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Brycheiniog Tawe Nedd, Sioned Williams:

“Dyw’r angen am fwy o ddiogelwch ynni yng Nghymru erioed wedi bod yn gliriach. Yn wahanol i’r rhai sy’n gwadu newid hinsawdd ac yn gwneud ymddiheuriadau dros Putin yn Reform UK, mae Plaid Cymru yn gwybod nad yw’r trawsnewidiad i Sero Net ac i fwy o hunangynhaliaeth ynni mewn oes o ansicrwydd byd-eang cynyddol, yn ddewisol.

“Mae Cymru yn genedl sy’n llawn botensial sydd heb ei ddefnyddio. O ynni llanw i ynni gwynt, gallai adnoddau naturiol Cymru ein gwneud yn arweinydd byd-eang o ran y trawsnewidiad gwyrdd, wedi’i bweru gan ynni adnewyddadwy.

“Er gwaethaf y potensial hwn, mae methiant llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd i gofleidio posibiliadau diddiwedd ein hadnoddau naturiol yn golygu bod pobl Cymru yn talu rhai o’r biliau ynni uchaf yn y DU.

“Os cawn ein hethol ar 7 Mai, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud Cymru yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy tra hefyd yn sicrhau bod cymunedau Cymru yn elwa o’n hadnoddau naturiol.

“Mae prosiectau fel Awel Aman Tawe yn enghreifftiau perffaith o sut gall y trawsnewidiad tuag at ynni adnewyddadwy sicrhau manteision i gymunedau lleol, gan sicrhau bod elw yn aros yn lleol – rhywbeth sy’n ganolog i uchelgeisiau Plaid Cymru.

“Ble mae Llafur wedi gwrthod rhoi grym i Gymru dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, fydd Plaid Cymru byth yn stopio brwydro dros ddatganoli Ystâd y Goron er mwyn sicrhau bod elw o adnoddau Cymreig yn aros yng nghymunedau Cymru.

“Dyna’r dewis sy’n wynebu pobl yn etholiad y Senedd ym mis Mai – dyfodol mwy disglair, gwyrddach gyda chymunedau yn ganolog o dan Blaid Cymru, neu ddinistr pellach i ein hinsawdd o dan Reform UK.”

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Nerys Evans:

“Mae Plaid Cymru yn gwybod nad yw’r sefyllfa bresennol mor dda ag y gall pethau fod i Gymru. Mae oedi Llafur wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy yn golygu bod dim digon o gefnogaeth yn cael ei roi i gymunedau i ddatblygu prosiectau ynni, ac mae biliau ynni yn dal i fod yn uchel ac yn cynyddu’n barhaus.

“Er mwyn sicrhau bod cymunedau Cymru yn elwa o adnoddau Cymreig, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu Cronfa Cyfoeth newydd fydd yn cefnogi ynni cymunedol, tai fforddiadwy ac ynni-effeithlon, a seilwaith cenedlaethol hanfodol.

“Mae gan Blaid Cymru’r cynlluniau a’r polisïau ar waith i sicrhau bod potensial Cymru yn cael ei ryddhau fel y gallwn gyrraedd sero net, tra hefyd yn grymuso cymunedau lleol i elwa o’n chwyldro ynni adnewyddadwy.

“Mewn sefyllfa fyd-eang gynyddol ansefydlog, mae gweithio tuag at annibyniaeth ynni yn hanfodol i gefnogi cymunedau gyda chostau byw. Tra bod Reform yn cymeradwyo Trump, sy’n pellhau ansefydlogrwydd byd-eang gyda’i ymosodiadau ar Iran, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru fydd wastad yn cynnwys cymunedau Cymru wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wnawn. O’r diwedd bydd gan Gymru lywodraeth bydd wastad yn sefyll i fyny dros ein cymunedau – llywodraeth sydd â chynlluniau gwirioneddol i rymuso ein cenedl a rhyddhau ein potensial.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here