16.8 C
Llanelli
Wednesday, September 9, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Gweithiwr cymorth gofal iechyd yn ymgymryd â her 10k i gefnogi gofal...

Gweithiwr cymorth gofal iechyd yn ymgymryd â her 10k i gefnogi gofal dementia

0
106
Iesha Henderson

Bydd Iesha Henderson yn rhedeg 10k y Penwythnos Cwrs Hir ar 28 Mehefin 2026 i gefnogi’r Uned Eiddilwch Acíwt yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’n gweithio.

Ganed Iesha, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, yn Ysbyty Llwynhelyg ac mae wedi bod yn gweithio yno ers bron i bedair blynedd felly roedd hi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaeth.

“Rwyf wedi bod yn cymryd rhedeg o ddifrif ers tua phedwar mis ond o’r blaen byddwn yn rhedeg efallai unwaith bob ychydig wythnosau. Rwy’n mwynhau rhedeg nawr felly o’n i’n meddwl y byddai hyn yn ffordd wych o godi arian i’n ward,” meddai Iesha.

“Mae gen i ddau fachgen hyfryd sy’n gymhellion mawr i’m cadw i hyfforddi. Maen nhw’n mwynhau reidio eu beiciau tra dwi’n rhedeg ac maen nhw wrth eu bodd yn gwneud lapiau o’m cwmpas sawl gwaith!”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Pob lwc enfawr i Iesha, edrychwn ymlaen at eich cefnogi yn Ninbych-y-pysgod!

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, megis amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau a’u datblygu.”

Gallwch gefnogi Iesha drwy gyfrannu yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/iesha-henderson

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.